成人快手

Biliau gwasanaeth

Pan fyddi di'n prynu neu'n rhentu eiddo, byddi di angen cyflenwad o wasanaethau fel trydan a nwy i sicrhau dy fod yn gallu cynnau dy oleuadau, gwefru dy ff么n symudol a gwresogi dy d欧.

Darlleniadau mesurydd

Bydd y rhan fwyaf o gwmn茂au鈥檔 mesur faint o drydan, nwy neu dd诺r sy'n cael ei ddefnyddio mewn cartref trwy fesurydd.

Yn aml bydd pobl yn darllen eu mesurydd eu hunain ac yn anfon y darlleniad i'r cwmni sy'n cyflenwi eu trydan neu nwy. Bydd eu biliau'n dangos dau ddarlleniad mesurydd - y darlleniad mesurydd blaenorol a'r un presennol.

Os nad yw'r mesurydd wedi cael ei ddarllen, yna bydd y cwmni ynni'n amcangyfrif darlleniad ar sail defnydd y cwsmer yn y gorffennol.

Mae'r gwahaniaeth rhwng y ddau ddarlleniad mesurydd yn dangos faint o nwy neu drydan sydd wedi cael ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod rhwng darlleniadau mesurydd. Felly i weithio allan cost dy fil diweddaraf, mae'n rhaid i ti dynnu'r darlleniad mesurydd blaenorol i ffwrdd o'r darlleniad mesurydd presennol. Pan fyddi di'n gwybod faint wyt ti wedi defnyddio, lluosa'r swm 芒'r gost uned.

Cofia fod t芒l sefydlog yn cael ei ychwanegu i dalu am gostau ychwanegol.

Enghraifft sylfaenol

Mae Megan yn cael bil trydan. Dyma'r manylion:

Tabl yn dangos bil trydan cartref

Beth yw cyfanswm cost y trydan gan gynnwys .

Datrysiad

Tynna'r darlleniad mesurydd blaenorol i ffwrdd o'r darlleniad mesurydd presennol i ddod o hyd i nifer yr unedau sydd wedi cael eu defnyddio.

8,800 鈥 7,000 = 1,800 uned

Lluosa 芒'r gost fesul uned.

1,800 脳 4 = 7,200c

Paid ag anghofio newid i bunnoedd.

7,200p 梅 100 = 拢72

Ychwanega'r t芒l gwasanaeth.

拢72 + 拢10 = 拢82

I ddod o hyd i'r TAW, mae'n rhaid i ti ddod o hyd i 5% o 拢82.

Cyfrifiannell

5/100 脳 82 = 拢4.10

Heb gyfrifiannell

Byddi di'n dod o hyd i 10% trwy rannu 芒 10.

拢82 梅 10 = 拢8.20

Mae 5% yn hanner 10%.

拢8.20 梅 2 = 拢4.10

Ychwanega'r TAW

拢82 + 拢4.10 = 拢86.10

Mwy o enghreifftiau

Mae'r ffioedd canlynol yn cael eu codi ar b芒r ifanc sy'n byw mewn fflat 芒 dwy ystafell wely am eu gwasanaethau.

Tabl yn dangos cost uned d诺r a thrydan

Ar ddechrau ac ar ddiwedd y , cafodd darlleniadau mesurydd ar gyfer d诺r a thrydan eu cofnodi.

Tabl yn dangos darlleniadau mesurydd ar gyfer d诺r a thrydan

Cyfrifa faint o arian cafodd ei wario ar dd诺r a thrydan y chwarter hwn.

Cost d诺r

Byddi di'n dod o hyd i swm y d诺r y cafodd ei ddefnyddio trwy dynnu'r darlleniad mesurydd blaenorol i ffwrdd o'r darlleniad mesurydd presennol.

7,200 - 6,700 = 500m3

Am bob m3 sy'n cael ei ddefnyddio, byddi di'n talu 35c.

Am 500m3 byddi di'n talu 500 脳 35 = 17,500c = 拢175.

拢10 y chwarter yw'r t芒l sefydlog.

Felly at ei gilydd, cost d诺r ar gyfer y cyfnod hwn yw 拢185.

Cost trydan

Byddi di'n dod o hyd i swm y trydan y cafodd ei ddefnyddio trwy dynnu'r darlleniad mesurydd blaenorol i ffwrdd o'r darlleniad mesurydd presennol.

9,800 鈥 8,000 = 1,800 kWh

Am bob kWh sy'n cael ei ddefnyddio, byddi di'n talu 10c.

1,800 脳 10 = 18,000c

Mae angen i'r holl unedau fod yr un fath, felly bydd angen i ni newid ceiniogau i bunnoedd trwy rannu 芒 100.

I newid punnoedd i geiniogau, mae'n rhaid i ti luosi 芒 100.

18,000c 梅 100 = 拢180

Y t芒l sefydlog am dri mis yw 拢4 脳 3 = 拢12.

Cost trydan ar gyfer y cyfnod hwn yw 拢192.

Felly byddi di'n dod o hyd i'r cyfanswm ar gyfer d诺r a thrydan trwy adio'r ddau swm. 拢185 + 拢192 = 拢377.

Credyd a Debyd

Yn aml bydd pobl yn dewis talu eu biliau trwy ddebyd uniongyrchol. Mae hyn yn golygu bod yr arian yn cael ei dalu'n awtomatig o dy gyfrif bob mis. Yna bydd yr arian hwn yn cael ei dynnu o dy fil. Bydd debydau uniongyrchol yn ymddangos fel credydau ar dy gyfrif neu CR. Os bydd arnat ti arian, bydd yn ymddangos fel DB, sy'n golygu debyd.

Question

Mae Billy wedi bod yn talu am nwy trwy ddebyd uniongyrchol bob mis ar gyfer Ionawr, Chwefror a Mawrth. Mae'n cael gostyngiad 拢30 am dalu trwy ddebyd uniongyrchol. Mae ei fil ar gyfer Ebrill yn dangos y darlleniadau mesurydd canlynol, a chost pob uned yw 12c.

Cwblha'r tabl isod i ddod o hyd i faint o arian sydd arno.

Bil gwasanaeth anghyflawn yn dangos darlleniadau mesurydd a chost pob uned