成人快手

Mesuriadau bras

Ni fydd unrhyw fesuriad yn gwbl gywir gan fod rhywfaint o gyfeiliornad wrth fesur bob amser. Gallet ddweud mai 163 cm yw dy daldra ond efallai mai 163.42 cm neu hyd yn oed 163.4234323432 cm wyt ti mewn gwirionedd. Mae鈥檙 ffigur cyntaf, 163 cm, wedi ei dalgrynnu i鈥檙 cm agosaf. Rydyn ni鈥檔 talgrynnu drwy鈥檙 amser mewn mathemateg, ond gall hyn achosi problemau wrth fesur.

Talgrynnu

Pan fydd gennyn ni rif wedi ei dalgrynnu, ni allwn fod yn hollol si诺r beth oedd gwerth y rhif cyn iddo gael ei dalgrynnu. Gallwn roi amryw o atebion trwy feddwl am reolau talgrynnu.

Llinell rhif o 162 cm i 164 cm

Pan fyddwn yn talgrynnu i鈥檙 cm agosaf, rydyn ni鈥檔 penderfynu pa cm mae鈥檙 gwerth agosaf ato.

Enghraifft

Talgrynna 162.8 cm i鈥檙 cm agosaf.

Llinell rhif o 162 cm i 164 cm 芒 marciwr yn 162.8 cm

Mae 162.8 cm yn fwyaf agos at 163 cm. Yn wir, byddai unrhyw rif yn uwch na 162.5 cm yn agosach at 163 cm.

Enghraifft

Talgrynna 163.2 cm i鈥檙 cm agosaf.

Llinell rhif o 162 cm i 164 cm 芒 marciwr yn 163.2 cm

Mae 163.2 cm yn fwyaf agos at 163 cm. Yn wir, byddai unrhyw rif o dan 163.5 cm yn agosach at 163 cm.

Pan fyddwn ni union hanner ffordd, ee 162.5 cm, gallen ni dalgrynnu鈥檙 naill ffordd neu鈥檙 llall. Fodd bynnag, y rheol ledled y byd yw ein bod bob amser yn talgrynnu i fyny yn y sefyllfa hon. Felly, byddai 162.5 cm yn talgrynnu i fyny i 163 cm.

Gallai taldra o 163 cm fod wedi cychwyn fel unrhyw fesuriad rhwng 162.5 cm a 163.5 cm.

Arffiniau uchaf ac isaf

Rydyn ni eisoes yn gwybod os yw rhif wedi ei dalgrynnu, gallai fod yn un o nifer o atebion cyn iddo gael ei dalgrynnu. Y rhif mwyaf yn yr amrediad hwn yw鈥檙 arffin uchaf a鈥檙 rhif lleiaf yw鈥檙 arffin isaf.

Enghraifft

Os edrychwn ni ar ein henghraifft flaenorol o 163 cm yn gywir i鈥檙 cm agosaf, rydyn ni鈥檔 gwybod mai鈥檙 amrediad o werthoedd cyn talgrynnu oedd 162.5 cm i 163.5 cm. Felly鈥檙 arffin isaf yw 162.5 cm a鈥檙 arffin uchaf yw 163.5 cm.

Question

Beth yw arffin uchaf ac isaf 5 m pan fo鈥檔 cael ei fesur i鈥檙 m agosaf?

Enghraifft

Canfydda arffin uchaf ac isaf 50 os yw鈥檔 cael ei gywiro i鈥檙 10 agosaf.

Ateb

Rydyn ni鈥檔 cywiro i鈥檙 10 agosaf.

陆 o 10 = 5.

Felly rhaid i ni fynd 5 yn uwch a 5 yn is i ganfod yr arffiniau uchaf ac isaf:

Arffin isaf = 50 鈥 5 = 45.

Arffin uchaf = 50 + 5 = 55.

Question

Canfydda arffin uchaf ac isaf 200 os yw鈥檔 cael ei gywiro i鈥檙 100 agosaf.

Arffiniau uchaf ac isaf degolion

Canfydda arffiniau uchaf ac isaf 3.4 cm i鈥檙 mm agosaf.

Rydyn ni鈥檔 talgrynnu i鈥檙 degfed rhan agosaf gan fod 1 mm yn un degfed o cm. Mae un degfed yn 0.1 fel degolyn.

陆 o 0.1 = 0.05.

Felly rhaid i ni fynd 0.05 yn uwch a 0.05 yn is.

Arffin isaf = 3.4 鈥 0.05 = 3.35 cm.

Arffin uchaf = 3.4 + 0.05 = 3.45 cm.

Question

Canfydda arffin uchaf ac isaf 10.2 os yw鈥檔 cael ei gywiro i鈥檙 degfed rhan agosaf.