成人快手

Beth yw diagramau Venn?

Ffordd o grwpio gwahanol eitemau yw diagramau Venn. Gelwir y grwpiau hyn yn setiau.

Mae gennyn ni set o glybiau golff neu set o lestri 鈥 mae鈥檙 rhain yn grwpiau o鈥檙 eitemau hynny鈥檔 unig.

Rydyn ni鈥檔 ysgrifennu set trwy ddefnyddio math arbennig o gromfachau. Gallet gael set o ffrindiau, ee {tom, leanne, alison, nia, anna, suzanne, lucy, marie}. Sylwa nad wyt ti鈥檔 defnyddio prif lythrennau o fewn y cromfachau.

Mae diagram Venn yn cychwyn gyda blwch a elwir yn set gynhwysol, sy鈥檔 cael ei ddynodi gan y symbol \(蔚\) (epsilon).

Mae hwn yn cynnwys popeth y mae gennyn ni ddiddordeb ynddo ar yr adeg dan sylw. Bydd yna gylchoedd y tu mewn i鈥檙 blwch ac rydyn ni鈥檔 eu defnyddio i grwpio鈥檙 eitemau o fewn y set gynhwysol. Mae eitemau yn y cylchoedd yn ffurfio gwahanol is-setiau.

Diagram Venn 芒 dwy set 芒 labeli Set A a Set B. Mae Set A yn cynnwys 8 rhif ac mae Set B yn cynnwys 9 rhif. Mae'r ddwy set yn gorgyffwrdd yn y canol i ffurfio is-set sy'n cynnwys 4 rhif

Is-setiau

Set A yw鈥檙 rhifau yn y cylch sydd wedi ei labelu 芒 Set A.

Set A = {1, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 12}

Set B yw'r rhifau yn y cylch sydd wedi ei labelu 芒 Set B.

Set B = {2, 3, 4, 6, 7, 9, 11, 12, 13}

Dyma is-setiau鈥檙 set gynhwysol.

Croestoriad

Y croestoriad yw lle mae gennyn ni eitemau o Set A a Set B - gwelwn y rhain yn y rhan sy鈥檔 gorgyffwrdd.

Rydyn ni鈥檔 ei ysgrifennu fel \({A}\cap{B}\). Yn yr enghraifft uchod, \({A}\cap{B}\) = {6, 7, 9, 12}.

Uniad

Uniad diagram Venn yw鈥檙 rhifau sydd un ai yn Set A neu Set B.

Uniad yr enghraifft uchod yw 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13 gan ei fod yn cyfeirio at y rhifau sy鈥檔 ymddangos yn unrhyw un o鈥檙 cylchoedd.

Rydyn ni鈥檔 ei ysgrifennu fel \({A}\cup{B}\) = {1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13}.