成人快手

Morgeisi

Prynu t欧 yw un o'r pryniannau mwyaf gall unigolyn ei wneud. Bydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o bobl gael math arbennig o fenthyciad o'r enw morgais. Po fwyaf yr arian byddi di'n ei fenthyg, y mwyaf byddi di'n talu'n 么l mewn taliadau llog. Hefyd po hiraf yr amser byddi di'n cymryd i ad-dalu dy forgais, y mwyaf o log byddi di'n talu.

Bydd maint y morgais alli di gael yn dibynnu ar faint dy gyflog. Mae cwmni morgais yn tueddu i roi benthyg 2 陆 gwaith dy gyflog yn unig.

Os wyt ti'n prynu eiddo efo rhywun arall, bydd maint y morgais wedi'i seilio ar gyflogau'r ddau ohonoch chi. Fel arfer bydd y cwmni morgais yn defnyddio'r cyfrifiad canlynol i weithio allan faint i'w gynnig: 2 陆 gwaith y cyflog mwyaf ac 1 waith y cyflog llai. Cyfrifiannell fforddiadwyedd yw enw hwn ac mae'n dweud wrth y cwmni a wyt ti'n gallu fforddio prynu'r t欧.

Cyfrifiadau fforddiadwyedd

Fforddiadwyedd unigolyn sengl = (cyflog) 脳 2.5

Fforddiadwyedd dau unigolyn = 2.5 脳 (cyflog mwy) + 1 脳 (cyflog llai)

Enghraifft

Mae p芒r ifanc eisiau symud i mewn i fflat gyda'i gilydd. Mae un yn ennill 拢14,000 ac mae'r llall yn ennill 拢20,000. Mae ganddyn nhw flaendal o 拢15,000. Ydyn nhw'n gallu fforddio fflat 拢130,000 sy'n gofyn am flaendal 10%?

Datrysiad

Nac ydyn, nid yw'r p芒r ifanc yn gallu fforddio fflat 拢130,000.

I weithio allan yr ateb, mae'n syniad da torri'r cyfrifiadau i lawr i gamau gwahanol:

1. Ydyn nhw'n gallu fforddio'r blaendal?

10 % o 拢130,000 = 0.10 脳 拢130,000 = 拢13,000

Ydyn, maen nhw'n gallu, oherwydd bod ganddyn nhw 拢15,000 sy'n fwy na'r 拢13,000 gofynnol.

2. Faint y mae angen iddyn nhw fenthyg?

拢130,000 鈥 拢15,000 = 拢115,000

3. Ydyn nhw'n gallu fforddio'r swm y byddai angen iddyn nhw fenthyg?

Fforddiadwyedd = 2.5 脳 (cyflog mwy) + 1 脳 (cyflog llai)

= 2.5 脳 拢20,000 + 1 脳 拢14,000

= 拢64,000

4. Ydyn nhw'n gallu fforddio fflat 拢130,000 sy'n gofyn am flaendal 10%?

Er bod gan y p芒r ifanc ddigon i'r blaendal, nid ydyn nhw'n ennill digon rhyngddyn nhw i fod yn gallu benthyg 拢115,000 (dim ond 拢65,000).

Question

Mae Arron eisiau prynu ei d欧 cyntaf. Mae'n ennill 拢44,000 ac mae ganddo 拢50,000 o flaendal. Mae o wedi dod o hyd i d欧 am 拢150,000 y mae o'n ei hoffi ac mae o eisiau cael morgais 芒 blaendal 20%. A yw hyn yn bosibl?

Ad-daliadau morgais

Mae Leon yn cymharu ffigyrau morgais ar gyfer eiddo y mae arno angen morgais o 拢55,000 i'w brynu. Gan ddefnyddio cyfrifiannell morgais, mae wedi gweithio allan sut fyddai ei ad-daliadau morgais yn amrywio gan ddibynnu ar hyd y morgais bydd yn ei ddewis.

Tabl yn dangos sut mae taliadau misol yn amrywio gan ddibynnu ar hyd y morgais

Enghraifft

Faint fyddai'n arbed trwy gymryd morgais allan am 20 mlynedd yn hytrach na 30?

Datrysiad

Mae 12 mis ym mhob blwyddyn, felly mae 20 mlynedd yn cael ei gyfrifo fel 20 mlynedd 脳 12 mis = 240 mis.

Bob mis bydd Leon yn talu 拢330.

拢330 脳 240 = 拢79,200

Mae 12 mis ym mhob blwyddyn felly yn achos 30 mlynedd 30 脳 12 = 360 mis.

Bob mis, byddai Leon yn talu 拢300 petai wedi cymryd y morgais dros 30 mlynedd.

拢300 脳 360 = 拢108,000.

Arbediad: 拢108,000 鈥 拢79,200 = 拢28,800

Mae hyn yn golygu ei fod wedi arbed 拢28,800 trwy gymryd morgais allan am 20 mlynedd yn hytrach na 30.

Question

Gan ddefnyddio'r un tabl, gweithiwch allan faint fyddai Leon yn talu petai'n cymryd ei forgais allan am 25 mlynedd.