Trawsluniau
Ystyr trawslun ydy llinell ar draws cynefinYr ardal lle mae rhywogaeth benodol yn byw. neu ran o gynefin. Mae鈥檔 gallu bod mor syml 芒 llinyn neu raff wedi ei gosod mewn llinell ar y ddaear. Mae nifer yr organebau o bob rhywogaethOrganebau sy'n ddigon tebyg i fridio a chynhyrchu epil ffrwythlon. ar hyd trawslun yn gallu cael eu harsylwi a鈥檜 cofnodi yn rheolaidd.
Fel arfer, mae trawslun yn cael ei ddefnyddio i ymchwilio i newid graddol mewn cynefin yn hytrach nag i amcangyfrif nifer yr organebau yn y cynefin hwnnw.
Mae diagram barcud yn dangos nifer yr anifeiliaid (neu ganran y gorchudd ar gyfer planhigion) yn erbyn pellter ar hyd trawslun.
Yn yr enghraifft hon, mae dosbarthiad planhigion dant y llew yn newid yn raddol o bum metr i 20 metr ar hyd y trawslun. Mae cwadradFfr芒m sgw芒r o ardal benodol sy鈥檔 cael ei defnyddio ar gyfer samplu cyflenwad a dosbarthiad organebau araf neu rai sydd ddim yn symud. wedi ei osod bob metr (neu 2-3 metr) ar hyd y trawslun.
Yr enw ar newid graddol yn nosbarthiad rhywogaeth ar draws cynefin yw cylchf盲edd. Mae鈥檔 gallu digwydd oherwydd newid graddol mewn ffactor anfiotig.
Question
Gan ddefnyddio'r data am ddosbarthiad gweiriau yn y diagram barcut uchod, awgryma pa mor bell ar hyd y trawslun fyddet ti'n dod o hyd i lwybr troed sy'n cael ei ddefnyddio'n aml.
15 m oherwydd dyma lle mae'r nifer lleiaf o blanhigion gwair.
Question
Wrth ddefnyddio trawsluniau i gofnodi faint o fwsogl gafodd ei ganfod, mae hi'n amhosibl cyfrif nifer y planhigion, felly fel rheol byddwn ni'n amcangyfrif y gorchudd canrannol.
Os oes 25 adran mewn cwadrad a bod mwsogl yn gorchuddio 16 o'r adrannau hyn, pa ganran o'r cwadrad sydd wedi'i orchuddio 芒 mwsogl?
\(\frac{16}{25}\times{100}={64\%}\)