Casglu data - cwadradau
Yn aml, mae hi鈥檔 anymarferol cyfrif pob organeb mewn poblogaethFaint o unigolion o rywogaeth benodol sy'n byw mewn cynefin penodol.. Er enghraifft:
- efallai y bydd anifeiliaid yn symud i mewn i ardal - neu allan ohoni - yn ystod y cyfrif
- efallai y bydd rhai yn marw cyn i鈥檙 cyfrif gael ei gwblhau
- efallai y bydd hi鈥檔 anodd dod o hyd i bob anifail yn ystod y cyfrif
O ganlyniad, mae biolegwyr wedi datblygu gwahanol ffyrdd o amcangyfrif maint poblogaeth. Mae hyn yn cynnwys cymryd samplau ar hap yn yr arwynebedd i'w astudio. Y mwyaf o samplau a gymerir, y mwyaf dilys fydd y canlyniadau, ac mae hi'n bwysig defnyddio technegau sy'n canfod hapsamplau er mwyn osgoi tueddTueddiad tuag at un peth yn hytrach nag un arall..
Defnyddio cwadrad
Fel arfer, mae cwadrad yn ffr芒m 1 m2 wedi'i gwneud o bren. Efallai y bydd yn cynnwys gwifrau er mwyn marcio ardaloedd llai o faint y tu mewn i鈥檙 cwadrad, megis sgwariau 5 脳 5 neu 10 脳 10. Mae modd adnabod a chyfrif yr organebau oddi tano, sef planhigion fel arfer. Mae cwadradau hefyd yn gallu cael eu defnyddio ar gyfer anifeiliaid sy鈥檔 symud yn araf, ee gwlithod a malwod.
I gymryd hapsampl gwirioneddol, dilyna'r camau hyn.
- Mesur ardal i'w arolygu.
- Defnyddio dull ar hap i gasglu cyfesurynnau ar yr echelinau fertigol a llorweddol sydd wedi'u mesur, ee taflu dis 20 ochr.
- Dewis y cyfesuryn cyntaf a symud y pellter hwnnw ar hyd yr echelin-\({x}\).
- Dewis yr ail gyfesuryn a symud y pellter hwnnw ar hyd yr echelin-\({y}\).
- Rhoi dy gwadrad ble mae鈥檙 cyfesurynnau鈥檔 cwrdd gan wneud yn si诺r bod y lleoliad yn gyson bob tro.
- Cyfri nifer yr organebau yn y cwadrad.
- Ailadrodd y dull hwn o leiaf 25 o weithiau.
Amcangyfrif maint poblogaeth
Mae'r enghraifft hon yn dangos ble y dylet osod cwadrat, yn 么l cyfesurynnau, a pha organebau dylet eu cyfri a pha na organebau na ddylet eu cyfrif.
Defnyddia'r hafaliad hwn i gyfrifo nifer y planhigion gwair sydd yn yr arwynebedd cyfan.
\({\text{Cyfanswm nifer y planhigion gwair yn y sampl}}\times\)
\( \frac{\text{Cyfanswm arwynebedd}{\text{ (m}}^{2}{\text)}}{\text{Cyfanswm yr arwynebedd samplu}{\text{ (m}}^{2}{\text)}}\)
Question
Mae Sally eisiau gwybod faint o flodau sydd mewn cae 50 m2. Mae鈥檔 taflu digon o gwadradau i orchuddio 10 m2 ac yn dod o hyd i 40 blodyn. Gan ddefnyddio'r hafaliad, sut mae hi鈥檔 cyfrifo amcangyfrif nifer y blodau yn y cae cyfan?
Cyfanswm nifer y blodau yn y cae = \({{40}\times\frac{50}{10}}={200}\)