成人快手

Dosbarthiad a bioamrywiaethEnwi rhywogaethau

Bioamrywiaeth yw cyfanswm nifer ac amrywiaeth o rywogaethau mewn ardal benodol. Gellir ei hastudio trwy ddefnyddio technegau samplu, a gall organebau gael eu dosbarthu yn 么l nodweddion morffolegol.

Part of BiolegAmrywiad, homeostasis a micro-organebau

Enwi rhywogaethau

Mae dosbarthiad organebau i lawr i lefel yn dilyn trefn benodol:

  1. Teyrnas
  2. Ffylwm
  3. Dosbarth
  4. Urdd
  5. Teulu
  6. Genws
  7. Rhywogaeth

Bydd y system yn defnyddio a rhywogaeth yr organeb i greu ei henw. Mae hyn yn osgoi'r dryswch sy'n gallu digwydd drwy ddefnyddio enwau cyffredin sy'n wahanol o ardal i ardal. Mae gwyddonwyr yn gwybod bod y system finomaidd yn gyffredinol a rhoddir enwau Lladin i organebau.

Dosbarthiad teigr

Mae鈥檙 tabl yn dangos dosbarthiad teigr.

TacsonEsiampl
TeyrnasAnimalia
FfylwmChordata (Vertebrate)
DosbarthMammalia
UrddCarnivora
TeuluFelidae
GenwsPanthera
Rhywogaethtigris
TacsonTeyrnas
EsiamplAnimalia
TacsonFfylwm
EsiamplChordata (Vertebrate)
TacsonDosbarth
EsiamplMammalia
TacsonUrdd
EsiamplCarnivora
TacsonTeulu
EsiamplFelidae
TacsonGenws
EsiamplPanthera
TacsonRhywogaeth
Esiampltigris

Felly, dosbarthiad binomaidd y teigr yw Panthera tigris. Enw'r genws sy'n dod gyntaf, ac weithiau gallwn ni ei dalfyrru i'r llythyren gyntaf yn unig (P. tigris) sy'n briflythyren bob amser. Enw'r rhywogaeth yw'r ail air ac mae'n dechrau 芒 llythyren fach. Rydyn ni'n ysgrifennu'r enw cyfan mewn teip italig.

Mae perthynas agos rhwng organebau o rywogaethau gwahanol ond sy'n rhannu enw genws, ee dosbarthiad binomaidd llew yw Panthera leo. Er mwyn i organebau berthyn i'r un rhywogaeth, mae'n rhaid i enw'r genws ac enw'r rhywogaeth fod yr un fath.

Question

Alli di ddefnyddio dosbarthiad y teigr i gwblhau dosbarthiad y llew?

TacsonEsiampl
Teyrnas
Ffylwm
Dosbarth
Urdd
Teulu
GenwsPanthera
Rhywogaethleo
TacsonTeyrnas
Esiampl
TacsonFfylwm
Esiampl
TacsonDosbarth
Esiampl
TacsonUrdd
Esiampl
TacsonTeulu
Esiampl
TacsonGenws
EsiamplPanthera
TacsonRhywogaeth
Esiamplleo