Perfformio鈥檔 driw i鈥檙 cyd-destun
Mae鈥檔 hanfodol fod dy waith yn driw i gyd-destun y ddrama wrth i ti ei pherfformio. Mae hyn yn amlwg os ydy wedi ei lleoli mewn cyfnod penodol, megis Brad gan Saunders Lewis sydd wedi ei gosod yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ond byddai hefyd yn wir os ydy鈥檙 ddrama wedi ei gosod mewn lleoliad modern penodol. Felly am beth ddylai鈥檙 perfformiwr fod yn meddwl?
Gwisg
Os bydd gen ti sgert hir neu os byddi di鈥檔 gwisgo staesDilledyn tynn sy'n gwasgu ac yn dal y corff mewn si芒p arbennig. o oes Fictoria, ee yn y ddrama, Y Wisg Sidan, neu ddwbled a chlos cyfnod Shakespeare, bydd hyn yn cael effaith fawr ar dy symudiadau. Does dim modd i ti ymlacio mewn cadair esmwyth os byddi di鈥檔 gwisgo esgyrn morfil o gwmpas dy frest.
Siarad
Mae Mwnci ar D芒n yn defnyddio tafodiaith a bratiaith i helpu鈥檙 gynulleidfa i ddeall y lleoliad modern, felly mae angen meistroli hyn.
Iaith
Os wyt ti鈥檔 dyfeisio darn o theatr, cofia y bydd ansawdd yr iaith rwyt ti鈥檔 ei defnyddio o gymorth i greu鈥檙 cyd-destun cywir ac ymdeimlad o gyfnod os oes angen. Efallai y bydd angen i鈥檙 actor ddefnyddio slang neu acen benodol i nodi dosbarth neu gefndir. Er enghraifft fyddet ti ddim yn defnyddio Cymraeg lenyddol ffurfiol ar gyfer cymeriadau ifanc 鈥streetwise鈥. A fyddet ti ddim yn defnyddio bratiaith neu eirfa fodern os byddi di鈥檔 portreadu cymeriad o鈥檙 19eg ganrif.
Acen
Cofia nad ydy hyn yn ymwneud 芒 dy farn bersonol di am acen ac a ydy unrhyw acen benodol yn fwy neu鈥檔 llai dymunol na Chymraeg ffurfiol. Mae鈥檔 ymwneud 芒 defnyddio鈥檙 llais a鈥檙 acen sy鈥檔 briodol i鈥檙 cymeriad rwyt ti鈥檔 ei chwarae a鈥檌 gyd-destun cymdeithasol.
Munudau allweddol
Meddylia am yr olygfa lle mae Hen ar fin ei saethu ei hun ar ddiwedd y ddrama. Mae鈥檔 olygfa amwys oherwydd does dim cyfarwyddyd i ychwanegu sain ergyd gwn ac mae鈥檙 ddrama鈥檔 torri i dywyllwch a cherddoriaeth cyn i ni weld a ydy Hen wedi ei ladd ei hun. Byddai鈥檙 amwyster hwn yn golygu mai鈥檙 gynulleidfa sy鈥檔 penderfynu a yw Hen wedi ei saethu ei hun ai peidio. Mae鈥檔 olygfa ddramatig allweddol a thasg yr actor ydy amlygu darnau pwysig o鈥檙 ddrama heb eu gor-wneud. Mae鈥檙 cyfarwyddwr yn medru defnyddio techneg megis saib dramatig i amlygu munudau allweddol yn y perfformiad.