Cyd-destun cymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol Macbeth
Mae modd i ti gynnig dehongliad sy鈥檔 aros yn agosach at gyd-destunau gwreiddiol y ddrama a gallu siarad 芒 chynulleidfa fodern o hyd. I wneud hyn, mae angen i ti edrych yn ofalus ar gyd-destun cymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol y cyfnod yr ysgrifennwyd y ddrama ynddo.
Drama am frenin yn yr Alban hynafol ydy Macbeth sy鈥檔 troi at ddrygioni i geisio sicrhau grym. Mae鈥檔 derbyn bod rhaid iddo gyflawni llofruddiaeth os ydy am gipio鈥檙 orsedd. Nid oedd y ffigur hanesyddol gwirioneddol hanner cynddrwg 芒 Macbeth yn y ddrama ond roedd Shakespeare yn ceisio ennill ffafriaeth i鈥檞 gwmni theatr drwy blesio鈥檙 brenin newydd, Iago I. Llwyddodd i wneud hyn drwy gynnwys y them芒u canlynol yn y ddrama:
- ei lleoliad yn yr Alban
- gwneud Macbeth yn ddrwg
- gwneud Banquo yn ddyn da gan fod Iago yn meddwl ei fod yn un o鈥檌 gyndadau
- defnyddio dewiniaeth yn y ddrama gan fod y Brenin wedi ysgrifennu llyfr ar y pwnc ac yn ei ystyried ei hun yn dipyn o arbenigwr
Roedd dewiniaeth yn rhywbeth oedd yn cael ei gymryd o ddifrif yn oes Shakespeare. Byddet ti ymhell ohoni pe baet ti鈥檔 beirniadu defnyddio dewiniaeth yn y ddrama fel rhywbeth dwl neu blentynnaidd. Efallai y byddai gen ti sylwadau am y ffordd y cafodd y pwnc ei gyflwyno, ond fyddai hi ddim yn deg beirniadu鈥檙 ffaith ei fod wedi ei gynnwys yn y ddrama.