成人快手

Byd y ddramaGosod cyd-destun y ddrama ar y llwyfan

Byd y ddrama ydy'r cyd-destun diwyllianol a hanesyddol, yn ogystal 芒 sefyllfa a pherthnasoedd y cymeriadau. Gallwn ni ailddehongli hen ddram芒u gan newid eu cyfnod a'u lleoliad.

Part of DramaYsgrifennu am ddrama a theatr

Gosod cyd-destun y ddrama ar y llwyfan

Un o鈥檙 pethau sy鈥檔 peri syndod am ddrama Shakespeare ydy鈥檙 ffaith ein bod ni鈥檔 cydymdeimlo 芒 Macbeth erbyn y diwedd er ei fod yn gymeriad llwgr a drwg. Mae hyn oherwydd ein bod ni fel cynulleidfa yn clywed ei feddyliau a鈥檌 deimladau dyfnaf. Rydyn ni hefyd yn condemnio ei weithredoedd ac yn derbyn bod rhaid iddo farw ar ddiwedd y ddrama. Dyma gymeriad y gwrtharwr sy鈥檔 boblogaidd mewn drama a ffilm.

Yng nghyfnod Shakespeare roedd diddordeb mawr mewn dyneiddiaeth, sef gofal am y ddynoliaeth ac roedd pobl yn arddel rheswm yn hytrach na ffydd grefyddol. Mae Macbeth yn gwrthod dynoliaeth ac yn dangos y math o benbleth mae llawer yn ei wynebu ar ffurf ddramatig.

Cofia fod gwybod y cyd-destun yn helpu pobl i ddeall y ddrama鈥檔 well ond dydy hynny ddim yn rhwystr i ddehongliad y cyfarwyddwr - mae鈥檔 cyfrannu ato.

Cymeriad Shakespeare, Macbeth wedi ei labelu: Hawdd ei dwyllo, Uchelgeisiol, Ofergoelus

Related links