Cymdeithas
Beth am gymdeithas y cyfnod? Pan fyddwn ni鈥檔 s么n am y cyfnod, mae angen i ni gofio bod y ddrama Macbeth wedi ei gosod yn y gorffennol, hyd yn oed yn oes Shakespeare. Roedd hyn yn rhoi rhywfaint o ryddid iddo o ran yr hyn roedd yn ei ddweud. Roedd y Macbeth go iawn yn frenin ar yr Alban yn yr 11eg ganrif. Ond roedd trais yn gyffredin yn y ddau gyfnod. Mae cymdeithas Macbeth yn hierarchaiddSystem sy'n trefnu aelodau cymdeithas neu gyfundrefn yn 么l eu statws neu eu hawdurdod. iawn, gan olygu bod arwyddoc芒d mawr i鈥檙 frwydr am y goron.
Roedd cynllun seddi鈥檙 theatr yn adlewyrchu natur cymdeithas ar y pryd. Roedd y 鈥groundlings鈥, y bobl oedd yn prynu鈥檙 tocynnau rhataf ac yn sefyll o flaen y llwyfan, ar waelod hierarchiaeth cymdeithas a oedd 芒 system ddosbarth gref. Roedd yr arglwyddi yn eistedd ar seddi 芒 chlustogau i fyny yn yr oriel uchaf. Roedd y theatr yn sylwebydd cymdeithasol pwysig yn oes Shakespeare, felly dydy hi ddim yn syndod fod y theatr yn microcosmCymuned, lle neu sefyllfa sy'n crynhoi nodweddion rhywbeth llawer mwy, ee mae hi'n bosib disgrifio ysgol fel microcosm o gymdeithas. o鈥檌 fyd.