Osgoi rhwystrau
Un o鈥檙 pethau sy鈥檔 gallu peri anhawster i actor dibrofiad ydy cyffwrdd 芒 pherfformiwr arall. Gallai fod yn goflaid ramantaidd ond nid dyna鈥檙 unig beth sy鈥檔 gwneud i bobl deimlo鈥檔 chwithig. Ar y llwyfan, mae鈥檔 teimlo fel dy fod yn mynd i ofod personol yr actor arall. Fodd bynnag os galli di oresgyn dy bryder yngl欧n 芒 chyffwrdd, boed yn llaw ar ysgwydd, coflaid neu gydio yn llaw rhywun i鈥檞 gyfarch yn frwd, bydd yn ychwanegu dilysrwydd i dy berfformiad.
Os byddai dy gymeriad wedi cyffwrdd 芒鈥檙 person arall ar y pwynt hwnnw yn y ddrama, yna dylet ti fel perfformiwr wneud hynny. Ond bydd yn ofalus i beidio 芒 mynd ar draws actor arall. Dylet ti osgoi hyn drwy flocio dy olygfeydd cyn y perfformiad fel bod pob actor yn gwybod lle y dylai sefyll.
Symudiadau cyfnod
Gall hyn fod yn rhywbeth sydd angen llawer o ymchwil ac ymarfer gofalus. Pan fydd merch yn gwisgo staesDilledyn tynn sy'n gwasgu ac yn dal y corff mewn si芒p arbennig. esgyrn morfil, mae鈥檔 golygu bod yn rhaid iddi ddal ei hasennau yn anhyblyg, hyd yn oed pan fydd hi鈥檔 eistedd. Mae gwisgo cylchbais DuduraiddSgert gylchog a oedd yn cael ei gwisgo gan ferched yn ystod oes y Tuduriaid (1485-1603)., neu sgert enfawr, fel gwraig llys o'r 18fed ganrif, yn mynd i effeithio'n sylweddol ar symudiadau actor. Yn y 1770au, byddai鈥檔 rhaid i ferched uchelwrol mewn ffrogiau llydan iawn ddod drwy鈥檙 drws wysg eu hochr.
Rhaid i ddynion hefyd ddysgu ymdopi 芒 gwisg cyfnod, boed yn gleddyf, cot dynn o ddechrau鈥檙 19eg ganrif neu ddwbled a chl么s o gyfnod Shakespeare.