Dawns a meim
Mae llawer o arddulliau dawns gwahanol megis bale, tap, modern, jazz, dawns neuadd a Lladin. Gall meim fod yn ffurf gelfyddydol ar ei ben ei hun hefyd.
Os byddi di鈥檔 defnyddio dawns yn dy gynhyrchiad, does dim rhaid i hyn fod yn goeth neu鈥檔 gymhleth. Os byddi di鈥檔 dyfeisio drama sy鈥檔 defnyddio atgofion plentyndod, efallai y byddet ti am ddangos gemau plant fel y symudiadau sy鈥檔 cyd-fynd 芒 rhigymau, i atgyfnerthu鈥檙 cysyniad. Gallai hyn fod yn hawdd i bobl nad ydyn nhw鈥檔 ddawnswyr ei ymarfer, os bydd yn syml ac wedi ei seilio ar rhythm syml.
Os bydd angen i ti gynnwys symudiadau dawns caboledig, byddet ti鈥檔 amlwg yn defnyddio dawnswyr profiadol sydd wedi eu hyfforddi, ond mae鈥檔 bwysig cynnwys gweddill y cast. Dydy hi ddim yn amhosib dysgu cam sylfaenol y gall pawb ei ailadrodd yn y cefndir wrth i鈥檙 prif gymeriadau symud drwy ddawns fwy caboledig. Gall actio da wneud i鈥檙 ddawns fwyaf syml edrych yn gymhleth.
Meim
Os byddi di鈥檔 gwylio artist meim, byddi di鈥檔 deall sut mae鈥檙 gelfyddyd yn sefyll ar wah芒n, ond bydd adegau pan fydd meim manwl yn rhan o waith mwy 鈥榩rif ffrwd鈥. Mae Theatr Gorfforol yn un enghraifft o hyn. Galli di ddefnyddio meim pan fyddi di鈥檔 portreadu emosiynau drwy weithredu neu chwarae gwrthrychau difywyd i newid y berthynas rhwng y cymeriad a鈥檙 lleoliad yn y darn.
Mae perfformwyr megis seren y ffilmiau mud, Charlie Chaplin, neu鈥檔 fwy diweddar y cymeriad comedi, Mr Bean, yn dangos dy fod yn gallu defnyddio meim hefyd i ddatblygu cymeriad os bydd arddull y perfformiad yn caniat谩u. Er enghraifft, os byddi di鈥檔 sefydlu鈥檙 confensiwn y bydd tasgau megis glanhau dannedd a phacio cinio ysgol yn cael eu meimio, gan fod y darn yn pwysleisio natur ddiflas y drefn ddyddiol, bydd y gynulleidfa yn derbyn hyn.
Y peth pwysig i鈥檞 gofio gyda meim ydy bod yn fanwl gywir, fel bod modd gweld unrhyw wrthrych dychmygol yn glir wrth i ti roi sylw i鈥檙 manylion. Darllena Cyfrwng drama os wyt ti am ddysgu mwy am gelfyddyd meim.
Mae鈥檙 un peth yn wir am bob symudiad. Cofia ddadansoddi鈥檙 hyn mae dy gorff yn ei 鈥榙dweud鈥 a gwybod beth rwyt ti鈥檔 ei wneud. Paid 芒 gadael i dy arferion di amharu ar greu cymeriad yn llwyddiannus. Recordia dy waith a鈥檌 wylio鈥檔 么l os ydy hynny o gymorth. Mae cymaint o鈥檙 hyn rydyn ni鈥檔 ei ddweud ar y llwyfan yn weledol felly mae defnyddio dy gorff yn effeithiol yn hanfodol i sicrhau perfformiad llwyddiannus.