Gwella dealltwriaeth o symud
Darllena鈥檙 detholiad canlynol o鈥檙 ddrama Diwedd Dyn Bach, cyfieithiad o Death of a Salesman gan Arthur Miller. Ateba鈥檙 cwestiwn yna cymhara dy ateb 芒鈥檙 ateb enghreifftiol.
Willy
Yn rhy ifanc o lawer, Biff, rhaid i ti roi dy waith ysgol yn gynta. Wedi i ti orffen efo hwnnw, mi fydd digon o ferchaid i hogyn run fath 芒 chdiQuestion
Disgrifia pa symudiadau fyddet ti鈥檔 eu hawgrymu i鈥檙 actor sy鈥檔 chwarae rhan Willy.
Yn yr olygfa hon mae Willy yn ail-fyw cyfnod hapusach pan oedd ei feibion, Biff a Happy, yn fechgyn ifanc. Mae鈥檔 cael sgwrs ddychmygol gyda nhw a dylai fod yn fywiog a hapus (mewn cyferbyniad 芒鈥檌 ymarweddiad yn y presennol). Dylai hyn gael ei adlewyrchu yn ei symudiadau a ddylai fod yn gyflym ac yn benderfynol. Dylai iaith ei gorff hefyd ddangos yr Willy hapus o鈥檙 gorffennol a bod yn agored ac yn eangfrydig. Gan ei fod yn 鈥榠au鈥 yn yr olygfa hon, gallai ei osgo fod yn fwy syth ac yn fwy pendant.
Gallai ddefnyddio鈥檙 gwydryn o laeth yn ei law i鈥檞 helpu i wneud pwynt, er enghraifft pan fydd yn dweud wrth Biff y dylai ganolbwyntio ar waith ysgol yn gyntaf cyn chwilio am berthynas gyda merched. Byddwn i鈥檔 awgrymu y gallai鈥檙 actor yfed y llaeth a gadael y gwydryn ar y bwrdd fel nad ydy e鈥檔 llesteirio ei symudiadau鈥檔 ormodol i鈥檞 ryddhau cyn diwedd y rhan. Gallai orffen y llaeth erbyn iddo ddechrau siarad 鈥榙rwy wal y gegin鈥. Byddai鈥檔 bosib iddo yfed y llaeth yn sychedig a gosod y gwydryn ar y bwrdd yn benderfynol, unwaith eto鈥檔 atgyfnerthu鈥檙 neges fod ei gymeriad yn llawer cryfach ac yn fwy grymus yn y gorffennol.
Mae Willy yn dal i siarad 芒鈥檌 feibion ifanc 鈥榙ychmygol鈥 ar y pwynt hwn, ond nawr mae fel pe bai鈥檔 gallu eu gweld yn glanhau ei gar o ffenest y gegin. Dylai ei symudiadau fod yn fwy fan hyn, gan fod y cyfarwyddiadau llwyfan yn nodi bod uchder ei lais hefyd wedi cynyddu am ei fod yn siarad 芒鈥檙 鈥榖echgyn鈥 o鈥檙 gegin.
Wrth i Willy geisio esbonio i鈥檙 bechgyn sut i lanhau ffenest y car, gallai ddefnyddio meim i ddangos defnyddio鈥檙 chamois i lanhau鈥檙 olwynion, a sut i lanhau鈥檙 ffenestri.