Commedia dell鈥檃rte
Mae gwaith mwgwd a symudiadau鈥檔 elfennau allweddol mewn commedia dell鈥檃rteMath o gomedi fyrfyfyr yn seiliedig ar gymeriadau stoc a oedd yn boblogaidd yn yr Eidal rhwng y 16eg a'r 18fed ganrif. Roedd y dram芒u yn dilyn llond dwrn o blotiau sylfaenol ac roedd actorion yn tynnu ar ddigwyddiadau cyfredol wrth addasu eu dialog a'r hyn a oedd yn digwydd. sef traddodiad comedi Eidalaidd oedd yn boblogaidd yn ystod y DadeniYr amser pan fu adfywiad yn y diddordeb mewn dysgu am wyddoniaeth a'r celfyddyddau yng ngorllewin Ewrop o'r 14eg ganrif i'r 17eg ganrif.. Roedden nhw鈥檔 defnyddio nifer o gymeriadau stoc, ee Pantalone a鈥檙 gwas Arlecchino o鈥檙 ddrama Eidaleg Il servitore di due padroni (Gwas Dau Feistr yn Gymraeg) gan Carlo Goldoni.
Mae perthynas Basil Fawlty a Manuel yng nghyfres gomedi Fawlty Towers y 成人快手, yn adleisio perthynas y meistr a'r gwas yn y commedia dell鈥檃rte. Roedd y plot yn blatfform ar gyfer nifer o olygfeydd gomedi a elwir yn lazzi. Roedd y rhain wedi eu seilio ar arferion personol cymeriad neu ryngweithio rhwng y cymeriadau. Byddai'r rhain yn gyfarwydd i'r gynulleidfa ac yn rhywbeth roedd aelodau鈥檙 gynulleidfa鈥檔 disgwyl eu gweld yn y perfformiad. Roedd y lazzi yn dibynnu'n bennaf ar symudiad, ee Arlecchino yn dal a bwyta pryfyn mewn ffordd arddulliedig, esgus bod yn gerflun fel ffordd o guddio, neu gael ei guro ar ei ben gan y meistr.
Mae鈥檙 clip Saesneg hwn o鈥檙 National Theatre yn gyflwyniad defnyddiol i fyd commedia dell鈥檃rte ac yn dangos y symudiadau corfforol sydd wedi eu gorwneud sydd eu hangen gan y perfformwyr. Mae is-deitlau ar gael.