Gweithio gyda mwgwd
Beth sy鈥檔 digwydd pan fyddi di鈥檔 gwisgo mwgwd tra byddi di鈥檔 perfformio? Bydd arddull y mwgwd yn cyfrannu rhywbeth at dy waith, ond y peth diddorol ydy beth rwyt ti鈥檔 ei golli. Os na allwn ni weld dy wyneb, rydyn ni鈥檔 dibynnu ar dy lais a symudiadau i ddeall y sefyllfa. Os ydy鈥檙 gwaith yn fud, y symudiad fydd yr unig ffordd o fynegi ystyr. Efallai y byddi di am ddefnyddio ystumiau mawr i wneud yn iawn am golli mynegiant yr wyneb. Ond gallet ti hefyd ganolbwyntio ar fanylion bach megis troi dy ben, edrych i lawr neu i fyny, y ffordd rwyt ti鈥檔 dal dy freichiau ayyb.
Beth os ydy cymeriad mewn mwgwd yn fud ond bod angen iddo fynegi dychryn mawr i鈥檙 gynulleidfa ond nid i鈥檙 person arall ar y llwyfan? Gallai symud braich sy鈥檔 gorffwys ar gadair a thynhau dwrn i awgrymu鈥檙 emosiwn hwn. Mae gweithio gyda mwgwd yn ymarfer da iawn i wella symudiadau, os byddi di鈥檔 dewis defnyddio mygydau yn dy gynhyrchiad neu beidio.