成人快手

Defnyddio dy gorffSymudiadau comig

Mae'r ffordd rwyt ti'n symud ar y llwyfan yn allweddol mewn gwaith meim, dawns a Theatr Gorfforol. Mae'n gallu mynegi teimladau, oed a rhyw cymeriad. Mae gwisg cyfnod yn effeithio ar symudiad.

Part of DramaSgiliau perfformio

Symudiadau comig

Y mathau mwyaf amlwg o symudiadau comig yw gorwneud ac ailadrodd. Mae yna sawl moment eiconig mewn rhaglenni teledu sydd o bosib yn aros yn hirach yn y cof na鈥檙 rhaglenni eu hunain. Un enghraifft ydy David Jason fel Del Boy yn y ddrama gomedi boblogaidd, Only Fools and Horses, yn cwympo yn y dafarn ar 么l i鈥檙 cownter gael ei godi heb iddo sylwi. Roedd hwn yn amlwg yn foment a gafodd ei ymarfer yn ofalus, ac oedd yn dibynnu ar amseru a diffyg ymwybyddiaeth lwyr ar ran yr actor o鈥檙 hyn oedd ar fin digwydd.

Creodd y comediwr Harry Enfield gymeriad o鈥檙 enw Kevin, sef bachgen pwdlyd a blin yn ei arddegau. Roedd iaith ei gorff yn adlewyrchu hyn gyda鈥檙 cymeriad yn eistedd mewn osgo diog ac yn llusgo ei hun o gwmpas gyda鈥檌 wallt yn ei wyneb drwy鈥檙 amser.

Harry Enfield yn chwarae rhan Kevin the Teenager yn eistedd ar wely ac annibendod o'i amgylch
Image caption,
Harry Enfield yn chwarae rhan Kevin the Teenager

Un arall ydy 鈥榗erddediad doniol鈥 John Cleese mewn sgets Monty Python a gafodd ei ailgreu yn y ddrama gomedi glasurol, Fawlty Towers.

Mae鈥檙 clip Saesneg hwn yn dangos fersiwn sydd ddim yn wleidyddol gywir (PC) o鈥檙 cerddediad gan Basil Fawlty ar 么l dioddef ergyd i鈥檞 ben

Related links