Y gofod perfformio
Y peth cyntaf y mae鈥檔 rhaid i ti ei wneud ydy dynodi si芒p a natur dy ofod perfformio neu lwyfan. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i鈥檙 ffordd rwyt ti鈥檔 perfformio.
Llwyfan prosceniwm
Yr enw ar lwyfan lle mae鈥檙 gynulleidfa鈥檔 eistedd ar un ochr yn unig ydy llwyfan prosceniwm (efallai i ti glywed y term llwyfan pen-yn-ben hefyd). Mae鈥檙 gynulleidfa鈥檔 wynebu un ochr i鈥檙 llwyfan yn uniongyrchol, a gallen nhw fod yn eistedd ar lefel is neu mewn rhengau o seddi. Gelwir y ffr芒m o gwmpas y llwyfan yn fwa prosceniwm. Mae hwn yn helpu i ddiffinio鈥檙 bedwaredd wal ddychmygol mewn theatr realistig. Yr ardal o flaen y bwa ydy鈥檙 prosceniwm - mae o flaen yr olygfa, yn llythrennol.
Mae dau derm arall sy鈥檔 werth eu nodi - llwyfan gwth a llwyfan ffedog. Llwyfan gwth (thrust stage) ydy lle mae鈥檙 gofod actio o flaen y bwa prosceniwm yn cael ei wthio ymlaen fel bod rhan o鈥檙 gynulleidfa鈥檔 eistedd ar dair ochr y gofod perfformio. Mae llwyfan ffedog yn cael ei ddefnyddio鈥檔 aml fel term arall ar gyfer llwyfan gwth ond gall gyfeirio hefyd at y gofod actio llawer llai o faint o flaen y bwa prosceniwm mewn rhai theatrau.
Llwyfan cylch
Mae llwyfan cylch yn cael ei osod yng nghanol y gynulleidfa. Mae hyn yn golygu bod cynulleidfa鈥檔 amgylchynu鈥檙 llwyfan cyfan. Mae鈥檙 math hwn o lwyfan yn creu awyrgylch agos atoch chi, ac mae鈥檔 dda ar gyfer drama lle bydd angen i鈥檙 gynulleidfa gyfranogi. Mae llwybrau i鈥檙 perfformwyr allu cyrraedd y gofod actio. Mae鈥檙 math hwn o lwyfannu鈥檔 golygu bod rhaid i ti feddwl yn ofalus am yr hen ddywediad na ddylet ti droi dy gefn ar y gynulleidfa. Wrth gwrs bydd actor yn gwneud hynny ambell waith i greu effaith ond mewn theatr gylch, bydd rhan o鈥檙 gynulleidfa鈥檔 edrych ar dy gefn drwy鈥檙 amser. Mae cadw diddordeb pob aelod o鈥檙 gynulleidfa yn galw am flocio medrus (pennu symudiadau pob cymeriad mewn perthynas 芒鈥檙 sgript). Mae theatr gylch hefyd yn cael ei galw鈥檔 theatr arena.
Llwyfan tramwy
Mae llwyfan lle mae鈥檙 gynulleidfa鈥檔 eistedd ar ddwy ochr yn cael ei alw鈥檔 llwyfan tramwy. Unwaith eto mae鈥檙 math hwn o lwyfan yn dda ar gyfer creu awyrgylch agos-atoch gan fod y gynulleidfa鈥檔 agos at yr hyn sy鈥檔 digwydd. Mae鈥檔 fath anarferol o lwyfan ond fe weli di鈥檙 fformat yn cael ei ddefnyddio鈥檔 aml ar gyfer sioeau ffasiwn, gan fod y modelau鈥檔 gallu cerdded ar ei hyd yn arddangos dillad.
Llwyfan ogwydd
Dyma lle mae cefn y llwyfan yn uwch na blaen y llwyfan. Mae鈥檔 helpu鈥檙 gynulleidfa i weld ac roedd yn gyffredin mewn theatrau h欧n. Gall llwyfan ogwydd effeithio ar bersbectif oherwydd nad ydy e鈥檔 wastad. Mae hwn yn rhywbeth sydd angen ei ystyried yn ofalus wrth gynllunio dyluniad cynhyrchiad.