成人快手

Defnyddio鈥檙 gofodLlwyfan wedi ei rannu

Mae si芒p a natur gwahanol lwyfannau a gofodau perfformio yn effeithio ar sut mae dram芒u yn cael eu perfformio a'u llwyfannu. Meddylia'n ofalus am brofiad y gynulleidfa a'r hyn mae鈥檔 ei weld.

Part of DramaSgiliau perfformio

Llwyfan wedi ei rannu

Ar gyfer rhai dram芒u bydd angen i ti rannu鈥檙 ardal actio yn fwy nag un gofod, ee yn swyddfa a llawr y ffatri. Mae modd i hyn gael ei greu鈥檔 realistig neu fel arall. Os byddi di鈥檔 perfformio gydag ychydig iawn o lwyfannu, mae鈥檔 bwysig dy fod yn cadw rhith y ddwy ardal. Gwna hyn drwy osod unrhyw ddrysau dychmygol yn yr union le cywir a gwneud yn si诺r fod unrhyw symudiadau meim megis defnyddio allweddi yn cael eu hailadrodd yn union yr un ffordd gan bob perfformiwr. Hyd yn oed gyda llwyfannu realistig bydd angen i ti fod yn ofalus gydag elfennau megis mynedfeydd i bob ardal er mwyn cynnal y rhith.

Enghraifft o lwyfan wedi ei rannu mewn perfformiad o Metamorphosis, Lyric Hammersmith
Image caption,
Enghraifft o lwyfan wedi ei rannu mewn perfformiad o Metamorphosis, Lyric Hammersmith LLUN: Eddi

Oddi ar y llwyfan

Yn amlwg gall cymeriadau aros ger y llwyfan yn yr esgyll (ochrau鈥檙 llwyfan) sydd wedi eu marcio fel arfer 芒 fflatiau neu lenni. Ond mae鈥檙 ardal oddi ar y llwyfan yn gallu chwarae rhan yn y ddrama hefyd. Gall cymeriadau siarad pan fyddan nhw oddi ar y llwyfan ac mae鈥檔 bosib gwneud mynediad rhywun yn fwy arwyddocaol drwy ddefnyddio ystumiau a llinellau o ddeialog sy鈥檔 rhagweld mynediad y cymeriad.

Ymarfer mewn gofod neu ar gyfer gofod

Mae鈥檔 well gan bawb ymarfer a pherfformio yn yr un gofod. Anaml y bydd hyn yn digwydd, nes daw鈥檔 amser yr ymarfer gwisgoedd. Os wyt ti鈥檔 defnyddio gofod arall, gwna鈥檔 si诺r dy fod yn ei fesur yn ofalus er mwyn i ti wybod faint o le fydd gen ti i symud. Mae hi鈥檔 amlwg bod angen gwneud hyn wrth baratoi brwydr neu ddarn egn茂ol o Theatr Gorfforol. Cofia hefyd y bydd angen i actor sy鈥檔 chwarae golygfa emosiynol wybod faint o gamau sydd eu hangen arno i groesi鈥檙 llwyfan. Dylai鈥檙 actorion sy鈥檔 gwylio鈥檙 hyn sy鈥檔 digwydd mewn golygfa dorf wybod faint o ofod sydd ganddyn nhw i鈥檞 lenwi ar y llwyfan.

Gallet ti ymarfer yr un olygfa mewn nifer o osodiadau llwyfan gwahanol er mwyn mesur effaith pob un o bersbectif y gynulleidfa.

Related links