Beth mae鈥檙 gynulleidfa yn ei weld
Mae鈥檙 llun isod yn seiliedig ar lwyfan prosceniwm ond mae鈥檔 berthnasol i unrhyw fath o lwyfan oherwydd fe fydd darlun yn cael ei gyflwyno ar y llwyfan bob amser. Sylwa mai ochr chwith a de yr actor ac nid y gynulleidfa sy鈥檔 cael eu defnyddio. Mae actor yn sefyll ar blatfform neu ardal uwch yn enghraifft o ddefnyddio lefelau. Gallwn ni ddefnyddio lefelau i ddangos gwaseidd-dra neu awdurdod wrth wneud gwaith byrfyfyr, a gallwn ni ddefnyddio ardal sydd wedi ei chodi鈥檔 uwch na gweddill y llwyfan i roi awdurdod i鈥檙 cymeriad sy鈥檔 sefyll arni.
Ddylai actorion ddim wynebu ei gilydd yn uniongyrchol pan fyddan nhw'n siarad 芒'i gilydd ar y llwyfan. Mae gwneud hyn yn cau'r gynulleidfa o'r sgwrs gan nad ydy'r actorion yn ei wynebu. Y ffordd o rwystro hyn rhag digwydd ydy i'r actorion droi at ei gilydd a pharhau i fod yn agored i'r gynulleidfa. Mae鈥檙 syniad o barhau i fod yn agored i鈥檙 gynulleidfa yn elfen bwysig o flocio da gan gyfarwyddwr ac yn allweddol wrth ddefnyddio unrhyw fath o lwyfan.
Gwneud llun da ar y llwyfan
Does dim ots os wyt ti鈥檔 gweithio gyda thorf neu gyda dim ond un perfformiwr, mae hi bob amser yn bwysig meddwl am y 鈥榣luniau鈥 sy鈥檔 cael eu creu. Os oes torf o bobl yn gwrando ar ddadl mae鈥檔 bosib y bydd angen iddyn nhw edrych fel pe baen nhw鈥檔 canolbwyntio ar y ddadl. Ond fe ddylen nhw wasgaru ar draws y gofod actio a sefyll ar ongl sy鈥檔 caniat谩u i鈥檙 gynulleidfa weld eu hwynebau a鈥檜 hymatebion. Mae hyn yn adleisio鈥檙 cyngor rwyt ti wedi ei gael neu ei ddarllen am greu tableauFfr芒m fferru neu ddelwedd lonydd ydy tableau. Lluosog tableau ydy tableaux. neu delwedd llonyddTableau, ffr芒m fferru unigol. Mae'n rhaid i'r holl berfformwyr ddal eu hystum yn hollol llonydd a thawel er mwyn nodi pwysigrwydd y foment..
Ond nid dim ond pan fyddi di鈥檔 sefyll yn llonydd mae hyn yn bwysig. Rhaid i dy symudiadau fod yn hyderus i argyhoeddi鈥檙 gynulleidfa. Cofia bod angen actor hyderus i gyfleu ystum ofnus. Bydd actor nerfus yn gwneud i鈥檙 gynulleidfa deimlo鈥檔 anghyfforddus. Rhaid i鈥檙 gweithredoedd a鈥檙 ymatebion fod wedi eu llunio鈥檔 gyflawn er mwyn i鈥檙 gynulleidfa ddeall a gwerthfawrogi holl lefelau鈥檙 perfformiad.