Gofodau anffurfiol
Theatr Stiwdio
Mae stiwdio yn ofod perfformio llai o faint, mwy agos-atoch. Mewn ysgol neu goleg, gallai fod yn ystafell ddosbarth sydd wedi ei haddasu drwy osod rig goleuo syml a llenni. Mae鈥檔 bosib gosod fflatiau i sefyll fydd yn caniat谩u i actorion fynd i mewn ac allan a bydd hyn yn golygu bod modd defnyddio鈥檙 gofod yn effeithiol. Os nad ydy鈥檙 stiwdio鈥檔 rhy fach, mae defnyddio lefelau鈥檔 debygol o fod yn effeithiol a bydd yn galluogi鈥檙 gynulleidfa i weld mwy o鈥檙 hyn sy鈥檔 digwydd.
Theatr Promen芒d
Theatr Promen芒d ydy pan fydd y gynulleidfa鈥檔 symud o le i le yn ystod y perfformiad. Mae hon yn ddyfais boblogaidd sy鈥檔 cael ei defnyddio鈥檔 aml gan ymarferwyr modern. Enghraifft adnabyddus ydy cynhyrchiad y Theatr Genedlaethol, Y Bont, a gynhaliwyd mewn nifer o leoliadau ar draws tref Aberystwyth yn 2013.
Theatr Awyr Agored a Theatr Stryd
Yn nodweddiadol mae Theatr Awyr Agored a Theatr Stryd yn fwy anffurfiol. Mae modd cael set yn y cyd-destun hwn ond hefyd gallai鈥檙 actorion ddewis defnyddio鈥檙 gofod agored i ryngweithio 芒鈥檙 gynulleidfa. Mae perfformiadau awyr agored yn arbennig o boblogaidd mewn parciau a gerddi cyhoeddus, tiroedd cestyll ayyb.
Cofia mai enghraifft gynnar o theatr awyr agored oedd yr hen amffitheatrTheatr awyr agored lle mae seddau wedi eu codi ar gyfer y gynulleidfa a gofod perfformio cylch ar gyfer yr actorion. Dechreuodd yn theatr hen wlad Groeg. Roegaidd. Mae ei dylanwad i鈥檞 weld o hyd mewn theatrau modern megis Canolfan y Mileniwm, Caerdydd. Mae gofod crwn agored yr amffitheatr sy鈥檔 estyn allan i ganol y gynulleidfa a鈥檌 seddi ar rengau yn ofod hynod o effeithiol ar gyfer cynyrchiadau heddiw hefyd.
Meddylia am gynhyrchiad rwyt ti wedi ei weld yn ddiweddar. Wyt ti鈥檔 gallu adnabod y math o lwyfannu a ddefnyddiwyd? Oes yna gynyrchiadau a allai weithio mewn dull arall o lwyfannu, ac os felly pam? Meddylia sut y byddai newid ffurf y llwyfannu wedi newid profiad y gynulleidfa o鈥檙 cynhyrchiad.