成人快手

Cerddorion Eos yn trafod penderfyniad tribiwnlys

  • Cyhoeddwyd
Logo Eos
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Eos yn cynnal dau gyfarfod - un yng Nghaernarfon a'r llall yng Nghaerdydd.

Bydd aelodau Eos, y sefydliad breindaliadau sy'n cynrychioli rhai o gyfansoddwyr a chyhoeddwyr cerddoriaeth Gymraeg, yn cwrdd yng Nghaernarfon heno ar gyfer y cyntaf o ddau gyfarfod i drafod y dyfodol.

Daw hyn wedi i Eos fethu a sicrhau taliad blynyddol o 拢1.5m gan y 成人快手 i ddarlledu cerddoriaeth ei aelodau.

Fis Rhagfyr, fe benderfynodd tribiwnlys hawlfraint y dylai'r 成人快手 dalu 拢100,000 y flwyddyn am ddefnyddio cerddoriaeth artistiaid Eos.

Roedd hwn yn swm llawer yn llai nag oedd y cerddorion wedi ei obeithio.

Nawr, mae Eos wedi galw am gyfarfodydd arbennig yng Nghaernarfon heno ac yng Nghaerdydd ddydd Llun, i drafod penderfyniad y tribiwnlys. Fe fyddan nhw hefyd yn pleidleisio ar nifer o gynigion am ddyfodol y sefydliad.

Manylion y cytundeb

Er i'r tribiwnlys benderfynu ar werth y drwydded rhwng Eos a'r 成人快手, dyw manylion y cytundeb dwy flynedd o hyd heb eu pennu.

Dywedodd 成人快手 Cymru mai'r ffocws nawr oedd "termau manwl" y drwydded newydd ag Eos.

Mewn datganiad, ychwanegodd 成人快手 Cymru: "Yn dilyn dyfarniad y Tribiwnlys Hawlfraint ry'n ni nawr mewn sefyllfa i drafod telerau manwl y cynnig gydag Eos cyn dod i gytundeb terfynol a dyna fydd ein blaenoriaeth.

"Mae ein ffocws bob amser ar sicrhau llwyddiant Radio Cymru i'r dyfodol a darparu'r gwasanaeth gorau posib i'w chynulleidfa."

Gadael PRS

Roedd aelodau Eos am weld rhagor o d芒l am ddefnyddio eu deunydd ar wasanaethau'r 成人快手, yn cynnwys Radio Cymru, wedi iddyn nhw adael asiantaeth PRS yn 2007.

Y flwyddyn honno, newidiodd PRS eu ffordd o dalu cerddorion Cymraeg eu hiaith, ac fe honnodd rhai bod eu breindaliadau wedi gostwng hyd at 85%.

Fe gollodd Radio Cymru yr hawl i ddarlledu rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd yr orsaf am gyfnod ddechrau 2013, yn rhan o'r anghydfod rhwng Eos a'r 成人快手.

Dychwelodd y gerddoriaeth ar 么l chwech wythnos oherwydd cytundeb dros dro, cyn i'r tribiwnlys gyfarfod i drafod y mater ddiwedd y flwyddyn.