Euro 2025: Cymru 1-1 Gweriniaeth Iwerddon
- Cyhoeddwyd
Mae gobeithion Cymru o o gyrraedd Euro 2025 yn dal yn fyw wedi g锚m gyfartal yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yng nghymal cyntaf rownd derfynol y gemau ail-gyfle.
1-1 oedd y sg么r yn Stadiwm Dinas Caerdydd gyda Lily Woodham yn rhwydo i Gymru.
Bydd rhaid ennill felly yn yr ail gymal yn Nulyn nos Fawrth os yw t卯m y merched am sicrhau lle mewn twrnament mawr am y tro cyntaf erioed.
Ond mae'r Gwyddelod hefyd yn gobeithio creu hanes trwy gyrraedd rowndiau terfynol yr Euros am y tro cyntaf.
Fe ddenodd y g锚m y dorf fwyaf erioed ar gyfer un o gemau cartref merched Cymru - 16,845.
- Cyhoeddwyd30 Hydref
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd
Gyda gymaint yn y fantol, doedd dim syndod efallai mai dechrau digon ansicr gafodd y ddau d卯m
Yr ymwelwyr gafodd y cyfle cyntaf i sgorio ond aeth ergyd Julie Russell dros y postyn.
Yn ffodus fe arweiniodd wir cyfle cyntaf Cymru at fynd ar y blaen, wedi 20 munud o chwarae.
A hithau'n ennill cap rhif 157 i Gymru, Jess Fishlock wnaeth greu'r cyfle, ac er nad oedd ei chroesiad yn berffaith o bell ffordd, fe laniodd yn daclus i Woodham daro'r b锚l i waelod ochor dde'r rhwyd.
Ond fe barodd y fantais am chwarter awr yn unig, ac roedd y g么l a ildiodd Cymru i'r sg么r ddod yn gyfartal yn un hynod anffodus.
Ergydiodd Ruesha Littlejohn o bell tua chornel top y rhwyd ac fe lwyddodd y golwg Oliva Clark i'w wyro at y postyn.
Ond fe fownsiodd y b锚l yn 么l gan daro Clark ei hun ac i mewn i'r rhwyd.
Roedd yna gyfle addawol i Ffion Morgan tua dechrau'r ail hanner ond aeth y b锚l ochr anghywir y postyn.
Wrth i Gymru geisio sicrhau mwy o feddiant nag yn yr hanner cyntaf roedd yna gyfnodau pan wnaethon nhw lwyddo i roi pwysau ar y gwrthwynebwyr ac roedd yna ymdrechion da i sgorio gan Rhiannon Roberts a Carrie Jones.
Roedd angen arbediad gwych gan Olivia Clark i atal foli bygythiol gan Caitlin Hayes.
Ond doedd fawr i wahaniaethu'r ddau d卯m mewn gwirionedd ac fe orffennodd y g锚m yn gyfartal g么l yr un.
Bydd popeth yn dal yn y fantol felly pan fyddan nhw'n cyfarfod eto yn Stadiwm Aviva, Dulyn nos Fawrth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 awr yn 么l
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn 么l