成人快手

成人快手 wedi gwario 拢360,000 yn nhribiwnlys breindaliadau Eos

  • Cyhoeddwyd
Eos
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl i ddyfarniad ar gost trwydded darlledu gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach

Mae'r 成人快手 wedi gwario dros 拢360,000 yn mynd 芒 chyfansoddwyr a chyhoeddwyr cerddoriaeth Gymraeg i dribiwnlys hawlfraint er mwyn datrys yr anghydfod dros freindaliadau.

Clywodd y tribiwnlys dystiolaeth gan y ddwy ochr ym mis Medi eleni, ac mae disgwyl i'r dyfarniad gael ei gyhoeddi ddydd Llun.

Roedd costau'r 成人快手 yn cynnwys 拢27,720 ar gyfer tyst arbenigol, a chafodd dros 拢4,000 ei wario ar gostau teithio, llety a phrydau bwyd i'r rheiny fuodd i'r gwrandawiad yn Llys y Goron Caernarfon.

Mae'r 成人快手 hefyd wedi cyfrannu 拢63,000 tuag at gostau cyfreithiol Eos, a 拢15,000 tuag at gostau tyst arbenigol Eos. Y cyfanswm dalodd y 成人快手 ar y broses o gynnal tribiwnlys hawlfraint hyd yn hyn yw 拢363,526.22.

拢1.5尘

Roedd Eos, y gymdeithas sy'n rheoli hawliau darlledu llawer o gerddoriaeth Gymraeg boblogaidd, wedi dadlau mai 拢1.5 miliwn oedd gwerth trwydded flynyddol i'r 成人快手 i ddarlledu'r holl ganeuon sy'n eiddo iddynt.

Clywodd y tribiwnlys fod y 成人快手 yn barod i wario dim mwy na 拢100,000 ar y drwydded.

Ers cyrraedd cytundeb dros dro yn gynharach eleni, mae'r 成人快手 wedi bod yn talu 拢120,000 am y drwydded, ond bydd dyfarniad ar gost newydd, gorfodol yn cael ei gyhoeddi gan y tribiwnlys yn ddiweddarach.

Yn ymateb i'r costau o fynychu'r tribiwnlys, dywedodd y 成人快手: "Roedd Eos yn chwilio am 拢1.5尘 y flwyddyn am yr hawliau i chwarae cerddoriaeth eu haelodau, sy'n cyfateb i swm o 拢4.5m dros gyfnod trwydded o dair blynedd.

"Mae'r ffigwr yma hefyd yn cynrychioli cynnydd o 12 gwaith y ffi dros dro blynyddol y cytunwyd arno gan y 成人快手 ac Eos ym mis Chwefror.

"O ganlyniad, wrth ystyried y setliad gwerth miliynau o bunnoedd roedd Eos yn gofyn amdano, mae gwario 拢360,000 ar ffioedd cyfreithiol y ddwy ochr yn ddefnydd pragmatig a chyfrifol o arian talwyr ffi'r drwydded.

"Roedd e'n bwysig bod y ddwy ochr yn cael cyflwyno eu dadleuon yn y Tribiwnlys Hawlfraint a ry' ni'n gobeithio y bydd y penderfyniad, beth bynnag ei natur, yn arwain at gyfnod o sefydlogrwydd."

Anghytuno

Mae'r ddwy ochr wedi anghytuno am werth trwydded i chwarae'r gerddoriaeth ers i aelodau Eos ddechrau trosglwyddo eu hawliau darlledu o'r brif asiantaeth casglu breindaliadau, PRS for Music, yn 2012.

Roedd Eos wedi ceisio trafod yn uniongyrchol gyda'r 成人快手 am daliadau uwch i'w haelodau, gan fod 成人快手 Radio Cymru yn un o brif ddefnyddwyr cronfa gerddoriaeth Eos.

Ar Ionawr 1 eleni daeth y gerddoriaeth dan rym Eos yn swyddogol, ond roedd methiant i gyrraedd cytundeb gyda'r 成人快手 wedi golygu fod rhaid i Radio Cymru wneud newidiadau i'r amserlen, a hefyd y math o gerddoriaeth oedd ar yr orsaf.

Daeth y gerddoriaeth dan reolaeth Eos yn 么l i'r tonfeddi chwe wythnos yn ddiweddarach, ar 么l i'r ddwy ochr gytuno ar gytundeb dros dro.

Ers rhai blynyddoedd mae aelodau Eos wedi bod yn anhapus am y taliadau maent yn derbyn pan mae gorsafoedd teledu a radio yn chwarae eu cerddoriaeth.

Mae darlledwyr, gan gynnwys y 成人快手, yn gwneud taliad blynyddol i PRS am yr hawl i ddarlledu'r holl weithiau sy'n cael eu gweinyddu gan y corff casglu.

Mae PRS yna yn defnyddio'r data sy'n dod gan ddarlledwyr yngl欧n 芒 phryd mae'r caneuon penodol wedi cael eu chwarae, ac ar ba orsafoedd, er mwyn rhoi gwerth ariannol i'r gerddoriaeth. Yna mae taliadau yn cael eu dosbarthu i gyfansoddwyr a chyhoeddwyr y gerddoriaeth.

Yn 2007 newidiodd PRS for Music y dull o gyfrifo taliadau i gerddorion Cymraeg.

Roedd y newid yn cynnwys gostyngiad yng nghyfanswm y taliadau ychwanegol roedd rhai aelodau yn derbyn am berfformiadau cyhoeddus o'u gwaith mewn llefydd fel tafarnau a siopau.

Er i rai cerddorion Cymraeg gwyno i'r PRS am y newidiadau, roedd rhai ohonynt wedi mynd ati i dynnu eu hawliau darlledu allan o drefn y PRS a ffurfio Eos.

Roedd Eos wedi llwyddo i gyrraedd cytundeb newydd gydag S4C yn 2012, ond mae'n rhaid i'w haelodau ddibynnu ar y tribiwnlys hawlfraint i benderfynu faint fydd rhaid i'r 成人快手 dalu i chwarae'r gerddoriaeth ar holl orsafoedd radio a theledu'r Gorfforaeth.