ASau yn pleidleisio o blaid rhoi cymorth i farw
- Cyhoeddwyd
Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio o blaid caniat谩u i oedolion sy'n derfynol wael gael cymorth i ddod 芒'u bywydau eu hunain i ben.
Fe bleidleisiodd 330 o ASau o blaid gyda 275 yn erbyn, yn dilyn dadl a barodd tua phump awr yn San Steffan ddydd Gwener.
Nid yw'r bleidlais yn golygu bod y mesur wedi dod yn gyfraith, ond mae'n caniat谩u iddo barhau ar gyfer craffu seneddol pellach.
Cafodd y gwleidyddion bleidlais rydd, sy'n golygu mai nhw oedd yn cael dewis fel unigolyn yn hytrach na chael arweiniad gan eu plaid wleidyddol.
Mae hon wedi bod yn bwnc llosg yn ddiweddar, gyda nifer yn cymharu arwyddoc芒d y bleidlais 芒 digwyddiadau fel cyfreithloni erthyliad neu ddileu鈥檙 gosb eithaf.
Roedd nifer o bobl y tu allan i鈥檙 Senedd i leisio'u barn ar ddwy ochr y ddadl ddydd Gwener.
Yn eu plith roedd Angela Kilenyi, sy鈥檔 wreiddiol o Gaerffili ond sydd bellach yn byw yn Llundain, a ddywedodd ei bod yn cefnogi鈥檙 mesur.
"Rwyf yma heddiw oherwydd fy mod yn credu'n angerddol mewn cymorth i farw. Gwelais fy ng诺r yn marw'n ofnadwy ac fe wnaeth hynny fy argyhoeddi hyd yn oed yn fwy pa mor bwysig yw hi i gael dewis ar ddiwedd bywyd," meddai.
Tra dywedodd Seb Roach, o Gaerdydd sy'n byw ar hyn o bryd yn Llundain lle mae'n fyfyriwr, ei fod yn gwrthwynebu.
"Rwy'n meddwl bod y mesur hwn yn eithaf brawychus a dweud y gwir," meddai.
"Rwy'n Gristion fy hun, rwy'n credu bod gan bawb werth waeth beth fo'u hanabledd, oedran neu ddisgwyliad oes."
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Gyda'r ASau wedi pleidleisio o blaid y newid, bydd misoedd o graffu a bydd yn rhaid iddo basio sawl cam arall cyn y gall ddod yn gyfraith.
Nid yw鈥檔 glir eto a fyddai angen pleidlais gydsynio yn Senedd Cymru ar gyfer y mesur hefyd.
Ym Mae Caerdydd fis diwethaf, pleidleisiodd Aelodau o鈥檙 Senedd yn erbyn cynnig symbolaidd i gefnogi cyfraith newydd a fyddai'n caniat谩u'r hawl i ddewis cael marw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref
- Cyhoeddwyd16 Hydref
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2021