Gemau mwyaf arwyddocaol hanes t卯m p锚l-droed merched Cymru
- Cyhoeddwyd
Dros yr wythnos nesaf mi fydd t卯m p锚l-droed merched Cymru yn gobeithio creu hanes drwy gyrraedd rowndiau terfynol un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol am y tro cyntaf erioed.
Mi fydden nhw yn wynebu Gweriniaeth Iwerddon dros ddau gymal yn rownd derfynol gemau ail-gyfle Euro 2025.
Mae yna ychydig dros 50 mlynedd wedi bod ers i'r t卯m chwarae eu g锚m gyntaf, a dyma rai o'r gemau mwyaf arwyddocaol yn ystod y cyfnod yna.
1973 - Cymru 2-3 Gweriniaeth Iwerddon
Mi gafodd y t卯m ei ffurfio yn 1973, a fe chwaraeon nhw eu g锚m gyntaf erioed y flwyddyn honno yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Llanelli.
Er fod y tywydd yn echrydus ar y diwrnod, mi oedd yna dorf o tua 3,500 yno i wylio'r g锚m.
Mi oedd yna rhaid i Gymru gael methyg kit gan d卯m dynion Abertawe, ac oherwydd hynny mi oedd y crysau yn llawer rhy fawr i rai o'r chwaraewyr.
Gaynor Blackwell a Gloria O鈥機onnell sgoriodd y goliau dros Gymru.
Ar y pryd doedd y t卯m ddim yn cael ei gydnabod gan Gymdeithas B锚l-droed Cymru, felly mi oedd yn rhaid i'r chwaraewyr dalu am bopeth eu hunain.
Fe arhosodd pethau fel yna tan i'r chwaraewyr Laura McAllister, Michele Adams a Karen Jones ofyn am gyfarfod gyda ysgrifennydd CBDC Alun Evans yn 1993.
Yn dilyn y cyfarfod yna fe benderfynodd y Gymdeithas gymryd rheolaeth o'r t卯m.
2010 - Cymru 15-0 Azerbaijan
Mi oedd gobeithion Cymru o gyrraedd Cwpan y Byd 2011 ar ben erbyn iddyn nhw groesawu Azerbaijan i'r Drenewydd yn eu g锚m olaf ond un yn y rowndiau rhagbrofol.
Ond mi oedd hi'n ddiwrnod i'w gofio i'r crysau cochion wrth iddyn nhw sicrhau eu buddugoliaeth fwyaf erioed.
Ychydig o ddiwrnodau cyn y g锚m mi oedd Cymru wedi penodi Jarmo Matikainen o'r Ffindir fel eu rheolwr newydd, a mae'n bosibl fod hynny wedi ysbrydoli'r chwaraewyr.
Fe sgoriodd Helen Lander chwe g么l, tra fod Gwennan Harries wedi sgorio hat-tric.
2017 - Cymru 3-1 Gogledd Iwerddon
Er mai g锚m gyfeillgar yn unig oedd hon, mi oedd hi'n achlysur bythgofiadwy i Jess Fishlock yn ennill ei chanfed cap.
Hi oedd y cyntaf yn hanes timau p锚l-droed Cymru, dynion a merched, i gyrraedd y garreg filltir arbennig yma.
Mi ddathlodd Fishlock mewn steil, yn sgorio g么l wych wrth i Gymru ennill 3-1. Georgia Evans a Natasha Harding sgoriodd y goliau eraill.
Ers hynny mae hi wedi mynd yn ei blaen i ennill dros 150 o gapiau, a hi bellach yw'r prif sgoriwr yn hanes Cymru.
2018 - Lloegr 0-0 Cymru
O bosibl y canlyniad gorau yn hanes y t卯m.
Ar y pryd mi oedd Lloegr yn yr ail safle ar restr detholion y byd, 32 safle yn uwch na Chymru.
Mi oedd pawb wedi disgwyl i Loegr ennill yn gyfforddus, a dwi'n siwr y byse hynny wedi digwydd oni bai am berfformiad arwrol gan golwr Cymru Laura O' Sullivan.
Mi oedd Cymru hefyd yn anffodus i beidio mynd ar y blaen yn yr hanner cyntaf, gyda sawl un yn credu eu bod nhw wedi sgorio o gic gornel. Ond doedd hi ddim yn bosibl gweld a oedd y b锚l wedi croesi'r llinell. Trueni nad oedd VAR ar y pryd!
Yn y pen draw Lloegr aeth yn eu blaenau i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2019, ond fe roddod y canlyniad yma hyder i Gymru eu bod nhw'n gallu cystadlu gyda'r goreuon.
2022 - Y Swistir 2-1 Cymru
Dyma'r agosaf erioed iddyn nhw gyrraedd rowndiau terfynol un o'r cystadlaethau mawr.
Ar 么l curo Bosnia Herzegovina yn rownd gynderfynol gemau ail-gyfle Cwpan y Byd 2023, Y Swistir oedd eu gwrthwynebwyr nhw yn y ffeinal.
Ac er i Gymru fynd ar y blaen yn yr hanner cyntaf diolch i g么l Rhiannon Roberts, fe gollon nhw yn eiliadau olaf amser ychwanegol.
Mi oedd hi'n ffordd greulon iawn i golli g锚m, ond y gobaith yw y bydd y profiad yma yn eu sbarduno yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon, ac y bydden nhw'n cyrraedd Euro 2025.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd
- Cyhoeddwyd30 Hydref
- Cyhoeddwyd30 Hydref