Tribiwnlys: '成人快手 i dalu 拢100,000 y flwyddyn i Eos'
- Cyhoeddwyd
Mae asiantaeth sy'n cynrychioli cannoedd o gerddorion Cymraeg wedi methu yn eu hymgais i gael taliad blynyddol o 拢1.5m gan y 成人快手.
Yn hytrach, penderfynodd tribiwnlys hawlfraint y dylai'r 成人快手 dalu breindal o 拢100,000 pob blwyddyn am yr hawl i ddarlledu miloedd o ganeuon Cymraeg.
Roedd y 成人快手 wedi dweud na fyddai'n fodlon talu dim mwy na 拢100,000 ac maent yn dweud y byddan nhw nawr yn cydymffurfio'n llawn gyda'r dyfarniad ddydd Llun.
Dywedodd Eos y byddan nhw'n trafod y sefyllfa gyda'u haelodau ar 么l derbyn setliad oedd yn llawer is na'r hyn oeddynt wedi gobeithio amdano.
Mae penderfyniad y tribiwnlys yn orfodol ac yn para am gyfnod o dair blynedd - o Chwefror 1, 2013 i Ragfyr 31, 2015.
Byddai unrhyw her i'r dyfarniad yn golygu proses gyfreithiol hir arall.
Mae'r gerddoriaeth sydd dan ofal Eos yn cynnwys nifer fawr o ganeuon sy'n cael eu chwarae ar 成人快手 Radio Cymru.
Ar ddechrau 2013, bu'n rhaid i'r orsaf newid ei hamserlen am chwe wythnos oherwydd bod Eos yn gwrthod rhoi caniat芒d i'r 成人快手 ddarlledu cerddoriaeth eu haelodau.
Mewn ymateb i'r penderfyniad ddydd Llun, dywedodd 成人快手 Cymru y byddan nhw'n cydymffurfio'n llawn gyda dyfarniad y tribiwnlys hawlfraint ac yn ceisio ailddechrau trafodaethau gydag Eos.
'Canlyniad sy'n deg'
Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg 成人快手 Cymru Wales:
"Yn amlwg, fe fyddwn yn cydymffurfio 芒 dyfarniad y Tribiwnlys Hawlfraint - penderfyniad y gwnaethon nhw gyrraedd ar 么l clywed dadleuon y ddwy ochr yn yr anghydfod. Gydol yr anghydfod 'dan ni wedi chwilio am ganlyniad sy'n deg i gerddorion Cymraeg a'r rhai sy'n talu ffi'r drwydded.
"Yn dilyn dyfarniad y tribiwnlys 'dan ni nawr mewn sefyllfa i drafod telerau manwl y cynnig gydag Eos cyn dod i gytundeb terfynol. Mae ein ffocws yn parhau ar sicrhau llwyddiant Radio Cymru i'r dyfodol a darparu'r gwasanaeth gorau posib i'w chynulleidfa.
"Fe gefnogon ni gostau cyfreithiol Eos yn yr achos unigryw hwn, fel bod dadleuon eu haelodau yngl欧n 芒 gwerth masnachol yr hawliau darlledu, yn cael gwrandawiad teg. Ar 么l clywed dadleuon y ddwy ochr, mae'r tribiwnlys yn amlwg o'r farn bod y ffi a gyhoeddwyd heddiw yn un sy'n deg i gerddorion a'r rhai sy'n talu ffi'r drwydded.
"Mae cerddoriaeth Gymraeg yn bwysig iawn i wrandawyr 成人快手 Radio Cymru. Mae ymrwymiad yr orsaf i gefnogi a datblygu cerddoriaeth Gymraeg yn un hir-dymor - ac rwy'n falch bod y gwaith sydd wedi cael ei wneud ac sy'n parhau i gael ei wneud yn y maes hwn, wedi cael ei gydnabod yn ystod gwrandawiad y tribiwnlys."
'Siomedig iawn'
Mae Eos yn dweud y byddan nhw'n cynnal cyfarfod brys gyda'u haelodau yn yr wythnosau nesa'.
Mewn datganiad, dywedon nhw: "Rydym yn siomedig iawn i glywed dyfarniad y tribiwnlys fod y 成人快手 i dalu 拢100,000 y flwyddyn am drwydded i ddarlledu gweithiau ein haelodau.
"Ar 么l treulio bron iawn i 6 mlynedd yn ymgyrchu am daliadau tecach mae'n newyddion trist fod y tribiwnlys wedi methu 芒 chydnabod gwerth yr hawliau hyn i'r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg.
"Mae'n amlwg fod y tribiwnlys wedi trio cadw at y status quo cymaint 芒 phosib yn hytrach na pharchu dymuniadau cyfansoddwyr a chyhoeddwyr Cymreig am dal teg.
"Calon achos y 成人快手 oedd nad oeddynt am dalu mwy i Eos rhag ofn peryglu'r cytundeb cyfforddus rhyngddyn nhw 芒 PRS lle mae gwerth cerddoriaeth Gymraeg yn cael ei gadw lawr fel rhan o gytundeb 'bulk-buy'.
"Mae'r tribiwnlys wedi penderfynu ategu'r berthynas glos honno yn hytrach nag amddiffyn diwydiant cerddoriaeth frodorol Cymru.
"Mae hyn yn rhoi cerddorion a chyhoeddwyr Cymreig, heb s么n am ddyfodol Eos, mewn sefyllfa ddifrifol iawn. Byddem yn cynnal cyfarfod cyffredinol arbennig mewn rhai wythnosau; mae angen i ni gymryd barn ein haelodau cyn gallu symud ymlaen."
'Angen trafod'
Wrth siarad ar raglen Taro'r Post ar Radio Cymru ddydd Llun, dywedodd Dafydd Roberts o Eos:
"Yn amlwg mae'n rhaid i ni dderbyn y penderfyniad. Ond dyfarniad ar y swm ydy hwn, mae 'na lawer iawn o bethau'n dal angen eu trafod rhwng Eos a'r 成人快手.
"Mae'n rhaid i ni hefyd drafod gyda'n haelodau, mae'n rhaid i ni gael eu barn nhw."
Pan ofynwyd iddo a fyddai Eos nawr yn ceisio pwyso ar y 成人快手 i dalu mwy na'r 拢100,000 a ddyfarnwyd gan y tribiwnlys, dywedodd:
"Mae 'na nifer o opsiynau ar gael i ni ond mae'n briodol i ni drafod y peth gyda'r 成人快手 gynta' cyn dweud unrhyw beth yn gyhoeddus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd27 Medi 2013
- Cyhoeddwyd24 Medi 2013
- Cyhoeddwyd17 Mai 2013