成人快手

成人快手 ac Eos: Tribiwnlys yn dechrau

  • Cyhoeddwyd
Eos
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Eos yn dweud bod cerddoriaeth Cymraeg yn haeddu mwy na'r 拢100,000 mae'r 成人快手 yn ei gynnig

Mae tribiwnlys hawlfraint wedi dechrau yng Nghaernarfon ddydd Llun i geisio datrys anghydfod rhwng y 成人快手 ac asiantaeth Eos yngl欧n 芒 thaliadau i gerddorion.

Wrth wraidd y ddadl yw gwerth ariannol cerddoriaeth Gymraeg i'r 成人快手, sydd yn darlledu'r gerddoriaeth yn bennaf ar Radio Cymru yn ogystal ag ar wasanaethau eraill o bryd i'w gilydd.

Yn dilyn gwrandawiad dros dro ym mis Ebrill, gorchmynnwyd y 成人快手 i barhau i dalu 拢120,000 y flwyddyn i Eos er mwyn chwarae cerddoriaeth aelodau'r asiantaeth, wedi i'r naill ochr gytuno ar y swm ym mis Chwefror.

Mae Eos am i'r tribiwnlys llawn gynyddu'r taliad i 拢1.5 miliwn y flwyddyn, tra bod y 成人快手 wedi dweud byddai taliad blynyddol o 拢100,000 yn bris teg ar gyfer yr hawl i ddarlledu gwaith y cerddorion.

Anghydfod

Ffurfiwyd Eos ar 么l i'w haelodau ddod yn anfodlon gyda gostyngiad yn nhaliadau PRS for Music, y brif asiantaeth ar gyfer dosbarthu breindaliadau ym Mhrydain.

Yn 2007 newidiodd PRS y drefn o ddosbarthu taliadau i gerddorion Cymraeg, gyda rhai ohonynt yn dadlau fod hyn yn cyfateb i ostyngiad cyflog hyd at 85%.

Mae PRS yn talu ei aelodau yn 么l faint o weithiau mae eu gwaith yn ymddangos ar raglenni radio a theledu, ond maent hefyd yn ychwanegu taliad arall sydd yn cymryd mewn i ystyriaeth perfformiadau cyhoeddus o'r gerddoriaeth mewn mannau megis tafarndai, siopau a dosbarthiadau cadw'n heini.

Yr elfen perfformiadau cyhoeddus sydd wedi gostwng yn sylweddol yn achos y cerddorion Cymraeg, ac sydd wedi pryfocio rhai i ffurfio ac ymuno ag Eos i hawlio fwy o arian yn uniongyrchol gan y 成人快手.

Am chwe wythnos ar ddechrau'r flwyddyn collodd y 成人快手 yr hawl i ddarlledu cerddoriaeth aelodau Eos, ac roedd rhaid newid amserlen a chynnwys Radio Cymru.

Roedd Eos wedi dod i berchen hawliau darlledu caneuon ei aelodau ar Ionawr 1, ond doeddynt ddim wedi llwyddo i gyrraedd cytundeb gyda'r 成人快手 dros daliadau cyn trothwy'r flwyddyn newydd.

Cynnig arian

Yn o gystal 芒 chytuno i dalu 拢120,000 y flwyddyn i Eos mewn cytundeb dros dro, mae'r 成人快手 hefyd wedi rhoi 拢65,000 - ac wedi cynnig 拢35,000 arall - i'r asiantaeth er mwyn sicrhau bod Eos yn gallu mynychu'r tribiwnlys gyda chynrychiolaeth gyfreithiol briodol.

Fis Awst talodd Eos eu haelodau am y tro cyntaf, gyda thaliadau yn cyfateb i raddfa o 拢1.60 y funud i gyfansoddwyr a chyhoeddwyr sydd wedi'u darlledu ar Radio Cymru.

Mae PRS yn talu eu haelodau 拢0.52 y funud pan mae Radio Cymru yn chwarae eu caneuon, yn o gystal 芒 thaliad arall sy'n cynrychioli perfformiadau cyhoeddus.

Yn ystod y tribiwnlys mae disgwyl i'r naill ochr ddefnyddio tystiolaeth gan dystion arbenigol, tra bod disgwyl hefyd i rai rheolwyr y 成人快手 ac aelodau bwrdd Eos gael eu holi gan fargyfreithwyr yn ystod yr achos. Mae disgwyl i'r tribiwnlys bara am bum niwrnod.