成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pethe Penllyn
Stryd Fawr y Bala Cantref
Tachwedd 2006
Y 15 mlynedd cyntaf
Mae union bymtheg mlynedd ers creu CANTREF, ac mae'n werth atgoffa ein gilydd am y cyfnod hwnnw.
Yn y cyfnod 1989-1991 bu swyddogion ymchwil o Goleg Polytechnig Manceinion yn ymchwilio i sut y gallai saith o drefi yng Nghymru wneud mwy o'u potensial i ddenu ymwelwyr. Fe ariannwyd eu prosiect gan arian Bwrdd Datblygu Cymru Wledig a Bwrdd Croeso Cymru. Dyna oedd blaengarwch ar ran y Coleg! Sicrhau swyddi yn y Coleg ym Manceinion efo arian Cymru! Sut y dewiswyd y Bala fel un o'r saith tref nid oedd neb yn si诺r iawn. Bu un swyddog yn ymweld yn gyson a'r Bala a thrafod efo rhai o arweinwyr y fro mewn llawer maes, a ffurfiwyd pwyllgor llywio a fyddai'n cyfarfod yn Henblas.

Cwestiwn pawb i'r swyddog oedd sut y gellid ariannu unrhyw fenter pe byddem yn dymuno hyrwyddo un. Ei ateb syml oedd na fedrai neb ateb hynny nes y byddai'n wybyddus beth y bwriedid ei wneud. Roedd hyn yn digalonni llawer!

Yr oedd Capel y Plase yn wag ar y pryd, wedi ei adnewyddu yn fewnol gan y Cyngor Sir, heb wybod yn iawn i beth, ond, ar gais taer y dref, nad oedd yr adeilad ddim i'w chwalu i wneud un maes parcio mawr. Yr oedd y swyddog yn gweld y lle yn fan y dylid datblygu arno.

Yr oedd rhai o aelodau'r pwyllgor llywio yn ei gweld hi'n od mai'r bwriad oedd creu darpariaeth ychwanegol ar gyfer ymwelwyr, ac y dylai y datblygiad fod o fudd i'r gymdeithas leol i gyd ac nid dim ond i'r rhai oedd yn dibynnu am ychydig fisoedd bob blwyddyn ar arian o bocedi'r ymwelwyr.

Yr oedd y swyddog yn credu y dylai fod gan Benllyn 'stor茂au' i'w dweud a fyddai o ddiddordeb i ymwelwyr. Holodd pa rai ac wrth gwrs yr oedd digonedd ohonynt - yn ymwneud a phynciau fel Thomas Charles, Michael D. Jones, Tom Ellis, Owen M. Edwards, y Rheilffyrdd, y Treialon C诺n Defaid, yr Eisteddfodau, y Ffeiriau, y Llyn, Boddi Tryweryn, ac felly ymlaen. Rhoddwyd y syniad gerbron y gellid darparu arddangosfa barhaol neu amgueddfa yn y Capel Bach, ond tra byddai honno yn rhoi cipolwg bras iawn ar y stor茂au i ymwelwyr achlysurol ni fyddai pobl leol yn debyg o gael mantais barhaol ohoni. Cytunwyd fodd bynnag i roi yr awgrym o ddefnyddio'r Capel Bach fel canolfan i'r gweithgarwch ac aed a'r mater i Gyfarfod Cyhoeddus yn Neuadd y Cyfnod yn yr hydref 1991. Cafwyd trafod brwd a holi cwestiynau am lle y doi y pres unwaith eto! Ond cytunwyd i symud ymlaen ac etholwyd swyddogion dros dro.

Yr oedd y cyfarfod nesaf yn y Ganolfan hefyd ac fe gafwyd pwyllgor gwaith. Huriwyd arddangosfa ar Hanes y Celtiaid ar gyfer yr haf, 1992, ac fe ddechreuodd y gwaith. Er bod ymwelwyr yn galw, er bod stor茂au lleol di-ri wedi eu cyflwyno, ychydig o'r ymwelwyr sydd yn dod o gymharu 芒 rhif y bobl leol. Efallai, felly, na wireddwyd syniad swyddogion Manceinion, ond gobeithio bod pobl Penllyn yn teimlo i chwi gael adnodd ychwanegol, buddiol, ar eich cyfer.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy