成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pethe Penllyn
Glian Llwyd Tlws y Cerddor
Gorffennaf 2006
Y llynedd, pan oedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghanolfan y Mileniwm, yr enillydd yn y gystadleuaeth lwyfan dan 25ain i offerynwyr oedd Glian Llwyd gyda'i pherfformiad ar y piano.

Aeth ymlaen i gystadlu am ysgoloriaeth Bryn Terfel yn Galeri Caernarfon.

Eleni, a'r eisteddfod yn Rhuthun, hi oedd prif gyfansoddwraig yr 诺yl, am dri chyfansoddiad i'r offeryn arall y mae'n feistres arno, sef y delyn.

Perfformwraig a chyfansoddwraig, dyna Glian, - fel Grace Williams ei hun wrth gwrs, yr un sy'n rhoi ei henw i'r fedal a enillodd, a phwy a 诺yr na fydd, ryw ddydd, gyfuwch ym maes cerdd 芒'r gyfansoddwraig arbennig honno.

Cafodd ganmoliaeth uchel gan Eric Jones, sydd ei hun yn gyfansoddwr o fri, a'i gerddoriaeth i eiriau Waldo - 'Y Tangnefeddwr' yn ffefryn cenedl erbyn hyn.

'Darluniau' oedd teitl gwaith a enillodd iddi anrhydedd cerddorol pennaf yr eisteddfod, ac roedd ynddo dri darn.

'Llyn Celyn' yn adlewyrchu ei chefndir ac yn cynnwys elfennau traddodiadol, 'Tirlun,' cyfansoddiad y tir canol - yn dangos symud o'r traddodiadol i'r cyfoes, a 'Bwrlwm,' creadigaeth hollol fodern, a'r cyfanwaith yn dangos 么l cynllunio bwriadol a datblygiad pendant.

Mae hi wedi dod 芒 bri i Gefnddwysarn a'r Sarnau ac ardal Penllyn, yn prysur ddringo'r ysgol gerddorol, ond ar yr un pryd yn un nad anghofiodd am y graig y naddwyd hi ohoni.

Yr oedd hi, ychydig dros bedwar mis yn 么l, yn cymryd rhan yn Eisteddfod y Llawrdyrnu ac yn canu mewn deuawd ac wythawd, mewn parti a ch么r.

Wrth longyfarch Glian yn gynnes, mae'n bwysig nodi ei bod yn un sy'n sylweddoli mai dau o hanfodion mawredd mewn unrhyw faes yw gostyngeiddrwydd a pharodrwydd i gydnabod a dal i gynnal y gwreiddiau.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy