成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pethe Penllyn
Hogiau Cut Lloi Hogiau Cut Lloi yn y Sarnau
Ionawr 2005
Tinc a phresenoldeb wnaeth y noson yn un arbennig. Bu tinc arbennig yn perthyn i amryw gorau a phart茂on Cymru erioed.
Fe barhaodd hyd y diwedd yng nghanu rhai megis Meibion Menlli, C么r Telyn Teilo a Meibion Llafar; mae'n bodoli o hyd yng nghanu C么r Meibion Llangwm, C么r Seiriol, Corau Meibion Treorci a'r Rhos, i enwi ond ychydig; ac mae'n cael ei eni o'r newydd yng nghanu rhai megis Meibion Llywarch a Bois y Castel!

Ac yn sicr, mae o yna yng nghanu Hogiau Cut Lloi.

Hen dinc y canu plygain geir gan y rhain, yr hen ganu gwerinaidd soniarus, y gymysgedd lesmeiriol o galedwch bois y tir a mwynder y canolbarth, y canu gwerin go iawn sy'n swnio'n ffwrdd 芒 hi, ond yn ffwrdd 芒 hi bwriadol a than reolaeth, dan reolaeth yr hudoles hir ei gwallt a'i bysedd a'i breichiau.

Roedd stamp Si芒n James ar y cyfan, ac er na chanodd ond un pennill ei hun, byddai pawb oedd yno yn y neuadd lawn wedi gallu troi'n Deio bach ar amrantiad i anfon nodyn ati gan mor lesmeiriol dyner ei gwahoddiad i wneud hynny.

Ond roedd yna bresenoldeb hefyd. Y presenoldeb amatur, ond nid amaturaidd. Roedd yna lenwi llwyfan llythrennol wrth gwrs gan ddeunaw o ddynion cyhyrog ac arweinyddes a thelyn. Dyw neuadd y Sarnau i gyd ddim yn fawr, yn llai dybiwn i nag un o doiledau canolfan y mileniwm a'r llwyfan ei hun fawr mwy na dwy neu dair sinc yn y cyfryw le. Ond bach neu beidio, yr oedd y llwyfan yn llawn drwy'r amser, hyd yn oed pan nad oedd ond triawd neu ddeuawd neu unigolyn yn canu neu ddiddanu'n llafar.

Presenoldeb llond llwyfan, llond neuadd oedd presenoldeb pob un o aelodau Hogiau Cut Lloi.

A'r dinc a'r presenoldeb wnaeth y noson hon yn un o'r nosweithiau disglair yn hanes "Hen Goleg Bach y Sarnau."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy