成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pethe Penllyn
Cymanfa Merched y Wawr yn y Bala Rhialtwch Rhuddem
Gorffennaf 2007
Ddeugain mlynedd yn 么l mewn cyfarfod yn y Parc, penderfynodd criw o ferched sefydlu mudiad uniaith Gymraeg i ferched Cymru.
Heuwyd hedyn a fyddai mewn amser yn egino a thyfu i fod yn un fudiadau pwysicaf Cymru, Merched y Wawr.

Ac yn Y Bala, Dydd Sadwrn Mehefin y 9fed, daeth dros fil o aelodau Merched y Wawr a Chlybiau Gwawr ynghyd i ddathlu fod y mudiad yn ddeugain oed eleni.

I ddathlu'r achlysur, cafwyd dau berfformiad o basiant, 'Rhialtwch y Rhuddem' yn Ysgol y Berwyn. Roedd pob rhanbarth yn cael ei gynrychioli, a thros 300 0 aelodau yn cymryd rhan dan gyfarwyddyd Mair Penri a Nan Lewis. Roedd y pasiant yn cychwyn yn 'y Dechrau', gyda Rhanbarth Meirionnydd, yn addas iawn, yn portreadu'r cyfarfod tyngedfennol hwnnw yn y Parc.

Yna aethpwyd ymlaen i ddarlunio holl fwrlwm a gweithgaredd y mudiad o'r cychwyn hwnnw, at heddiw a llwyddiant y Clybiau Gwawr.

Cafwyd blas ar y cystadlu, y gwyliau rhanbarth, gwaith y mudiad hefo'r dysgwyr, noson lawen, yr Eisteddfod Genedlaethol, a'r holl weithgareddau lleol sy'n cael eu cynnal drwy'r flwyddyn ledled Cymru.

Yn y prynhawn, aeth pawb i Gapel Tegid i fod yn rhan o Gymanfa Ganu'r Dathlu, dan arweiniad Maureen Hughes, a recordiwyd ar gyfer rhifyn o Dechrau Canu, Dechrau Canmol.

Casglwyd 拢1,600 tuag at T欧 Hafan a T欧 Gobaith.

Cafwyd diwrnod hwyliog dros ben, yr awyrgylch yn braf ac roedd yno deimlad o falchder bod y mudiad yn parhau i weithio'n ddiflino i ddiogelu a hyrwyddo'r iaith Gymraeg. A chan fod y bygythiad i'n cymunedau yn fwy nag erioed, y gobaith ydi y bydd Merched y Wawr yn parhau i weithio am ddeugain mlynedd a mwy eto. Fel dywedodd Mary Price, llywydd cenedlaethol Merched y Wawr: "Mae'r diwrnod arbennig yma wedi ysbrydoli ein haelodau i gerdded ymlaen yn hyderus i'r dyfodol, gan gofio'r oll a gyflawnwyd dros y deugain mlynedd a aeth heibio."

  • Hanes sefydlu Merched y Wawr yn y Parc

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy