成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pethe Penllyn
Treialon cwn defaid Y Ganolfan Wledig Genedlaethol
Awst/Medi 2006
Mae pawb sy'n gysylltiedig ag Antur Penllyn wrth eu bodd yr wythnos yma wedi clywed y newydd da fod eu cais am arian Amcan 1 i sefydlu y Ganolfan Wledig newydd ar dir Rhiwlas wedi bod yn llwyddiannus.
Dafydd Llewelyn Williams, Plas Moelgarnedd, yw Cadeirydd y Gr诺p a fu'n gweithio ar y cynllun ers dros bum mlynedd, ac mae'n tystio iddynt bron a rhoi'r ffidil yn y to fwy nag unwaith, yn bennaf am fod angen argyhoeddi cymaint o gyrff am werth datblygiad o'r fath.

Ar y cychwyn Canolfan yn ymwneud 芒 defaid a ch诺n defaid oedd mewn golwg a bu'n anodd symud ymlaen i'r cyfeiriad yma. Felly lluniwyd prosiect ehangach, prosiect twristiaeth am fywyd cefn gwlad a bywyd gwledig.

Gyda phob prosiect fel hwn mae'n rhaid cael cefnogaeth cynifer o gyrff cyhoeddus a phreifat, pob un yn gallu rhoi mwy na geiriau caredig - yn arbennig arian. Felly aed ati i sicrhau y byddai cyrff fel y Cyngor Sir, y Bwrdd Croeso, a mwy, yn cefnogi ac fe ddaeth hynny a chytundeb am arian Amcan 1. Ers i hynny ddigwydd mae cyrff eraill wedi gofyn am ddod i mewn hefyd - mae pawb yn barod i ddilyn y gwariwrs mawr!

Yn ogystal ag apelio at bobl leol a thwristiaid bydd ysgolion lleol ac adrannau amaethyddol colegau yr ardal yn manteisio ar y darpariaethau. Bydd yna le i droi i mewn am baned ar 么l cerdded yn hamddenol ar hyd y gwastad i gyfeiriad yr hen fatri brwshis ger Sgubor Isa, Rhiwlas. Bydd yno arddangosfeydd parhaol a thymhorol ac mae San Ffagan wedi cael cais i ddarparu'r rheini.

Nodwedd arall o'r lle fydd amffitheatr fach lle gall pobl grynhoi i gael cyngerdd neu wylio pasiant, gwrando ar sgwrs ac ati. Yn naturiol disgwylir y bydd digonedd o gyfeiriadau at hen draddodiadol yr ardal yma ym myd amaeth yn bennaf, ond am ein diwylliant cyffredinol hefyd.

Sut fydd pethau'n symud ymlaen ar hyn o bryd? Gobeithir anfon manylion allan i gael tendrau i wneud y gwaith - mae'r cynlluniau wedi bod yn barod ers tro - cyn diwedd Awst, gyda'r gwaith adeiladu yn cychwyn cyn diwedd 2006. Gallai'r Ganolfan agor yn gynnar yn 2008. Yn lled fuan hefyd bydd hysbysebu am rai o'r 7 o staff llawn amser y bwriedir eu cael i redeg y Ganolfan. Beth amdani?


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy