成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Llien Gwyn
Cannwyll Llewyrch i'm llwybr
Myfyrion yr Adfent gan Denzil Davies, Hebron.
I ddechrau, dyfynnaf yr hyn a ddywed Kate Roberts am yr amser yma o'r flwyddyn, "Mae rhywbeth bach yn fy nghalon o hyd yn tarddu fel ffynnon i'r dyfodol, y bydd y Nadolig y flwyddyn hon yma eto ar slap a llosgwn y neidr wrth ei safn. Ie, mynd, mynd o hyd a'r cylch yn dod n么l i'w unfan."

Ydy, mae'r Nadolig wrth y drws a finnau ddim yn barod. Yr achwyniad cyffredinol yw bod yr 糯yl wedi mynd yn or-fasnachol. Digon gwir! Gwelir cardiau Nadolig ar werth yn yr Haf ac addurniadau o flaen ein llygaid drwy gydol y flwyddyn. Tybed a yw Santa Clostroffobia wedi cymryd drosodd?

Mae G诺yl y Nadolig yn werthfawr iawn oblegid g诺yl y teulu yw'r gwir Nadolig. Daw aelodau o'r teulu sydd ar wasgar, yn 么l i' w cartrefi at eu hanwyliaid ond cofier nad yw'r Nadolig yn gyfnod hapus i'r rhai sy'n hiraethu ar 么l aelodau o'r teulu a gollwyd yn ystod y flwyddyn.

Gwell i ni nawr geisio bod yn bositif yn ein myfyrdodau am yr 糯yl gysegredig hon. Derbyniwn gysur wrth yr adnod sy'n gyfarwydd i ni, "Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd ei unig anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo Ef ond caffael ohono fywyd tragwyddol. Hyd yn oed yn Stori'r Geni, wrth chwilio am lety, cafodd ei gau allan gan y rhai y daeth Ef i fod yn Waredwr iddynt. Dyna ddechrau'r gamdriniaeth a gafodd y "g诺r gofidus a chynefin a dolur."

Yn anffodus, yn ein dyddiau ni, mae'r byd yn ceisio ei gau allan. Gadewch i ni fwynhau'r 糯yl yn y ffordd draddodiadol, heb anghofio gwir ystyr y Nadolig, neu fel y dywed yr Hen Ficer Pritchard, Llanymddyfri:

Awn i Fethlem bawb dan ganu,
Neidio, dawnsio a difyrru
I gael gweld ein Prynwr c'redig
Aned heddiw, ddydd Nadolig.

Gwerthfawrogwn y cyfoeth sydd gennym yn emynau a charolau'r Nadolig, ac mae un o eiddo ein chwaer annwyl, Mrs. Alice Evans, Henllan Amgoed yn dehongli'r hyn a geisiaf ei ddweud.

Dyma'r pennill olaf:
Faban Bethlem, maddau inni
Am roi mawl i Ti'n y crud
Heb dy arddel yn Waredwr,
Heb dy ddilyn yn y byd;
O holl roddion Duw i ddynion,
Ti, o Grist yw'r pennaf gaed,
Tyrd o'r newydd i'n calonnau,
Tyrd i ddangos gwerth dy waed.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chwi oll.

Ymddangosodd yr erthygl hon gan Denzil Davies, Hebron yn rhifyn Rhagfyr 2005 o bapur bro Y Cardi Bach


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy