Mae unig siop pentref Llangynin wedi cau ei drws am y tro olaf.
Wedi 44 mlynedd o wasanaeth, tristwch i Gwennie Rees yw gorfod ymddeol a chau Cheerio Stores, siop sydd wedi bod yn adnabyddus yn yr ardal ac yn ganolbwynt y pentref ers blynyddoedd lawer.
Daeth diwedd cyfnod hir yn hanes un teulu lleol wrth i ddrysau Cheerio Stores gau am y tro diwethaf ar Fawrth 30ain.
Mae teulu Gwennie Rees wedi bod yn gwasanaethau trigolion yr ardal am dros bedwar ugain mlynedd - ac wedi bod yn dystion i newidiadau mawr yn y ffordd o fyw.
Ymgartrefodd Ben ac Esther Anne Rees yn Cheerio Stores yn dilyn eu priodas ym 1926.
Yn ogystal 芒 chadw fferm fechan, byddai Esther Anne yn gweithio yn y siop, a Ben yn dosbarthu nwyddau o amgylch y ffermydd ar ei gart a cheffyl.
Bryd hynny, roedd y siop yn gwerthu tipyn o bopeth, gan gynnwys nwyddau fferm.
Ym 1947, agorodd swyddfa bost ac erbyn hynny, roedd Mary Annie, merch hynaf Ben ac Esther Anne yn helpu ei rhieni gyda'r gwaith.
Wedi i Gwennie adael yr ysgol, ymunodd hithau 芒 gweddill y teulu i gydweithio'n galed i gynnal y busnes.
Bu blynyddoedd yr ail ryfel byd yn rhai prysur dros ben ac roedd y siop yn hynod o boblogaidd ymysg plant yr ysgol gynradd a fyddai wrth eu bodd yn croesi'r stryd i wario'u ceiniogau prin ar Spanish, y licris du, a phob math o losin blasus.
Priododd Mary Annie 芒 Tom Adams ym 1957 ac ymgartrefu ar fferm Plasydderwen.
Ym 1965 y trosglwyddwyd awennau'r siop a'r post i Gwennie.
Wedi marwolaeth ei mam ym 1967, bu Gwennie am dair blynedd yn gofalu am ei thad, yn rhedeg y post a'r siop, ac yn crwydro'r wlad mewn fan fechan yn dosbarthu nwyddau i'r ffermwyr lleol.
Wedi'r newidiadau yn y system talu pensiynau, nid oedd cymaint yn defnyddio'r Swyddfa Bost ac fe gaewyd honno yn 2003.
Daeth pennod arall i ben yn hanes pentref a phlwyf Llangynin wrth i'r siop gau.
Bu'r siop a'r post yn galon y gymuned, yn fan cyfarfod a'r lle i fynd am gwmn茂aeth a chlonc.
Bydd colled fawr ar ei h么l.
Mae Gwennie yn diolch i bob un sydd wedi bod yn gwsmer rheolaidd ac wedi'i chefnogi dros y blynyddoedd.
"Dw i wedi mwynhau'r gwmn茂aeth a'r sgyrsiau difyr gyda'r cwsmeriaid ar hyd y blynyddoedd. Mae'r cwsmeriaid wedi bod yn ffyddlon iawn i mi. Fe fydda i'n gweld eisiau'r ffrindiau da sydd wedi bod yn galw yn y siop dros y blynyddoedd - gobeithio'n fawr y byddan nhw'n dal i alw heibio, er nad oes dim siop yma bellach."