Mae Catrin Aur yn fyfyrwraig 么l-raddedig yn y Coleg; ar 么l graddio mewn Hanes o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae'n ferch i Islwyn a Julia Davies, a chanddi dri brawd. Mae ei mam Julia yn enedigol o'r ardal hon a chyn priodi bu'n byw yn Blaensamgoch, Llanboidy. Mae Catrin yn wyneb cyfarwydd yn Eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol ac wedi ennill nifer o wobrau dylanwadol ym myd cerddoriaeth ar hyd y blynyddoedd. Sefydlwyd yr Ysgoloriaeth hael yma gan y Fonesig Shirley Bassey yn dilyn ocsiwn ei gwisgoedd prydferth yn Christie's Llundain ac mae'r elw wedi galluogi'r Coleg i greu'r wobr flynyddol yma. Bydd myfyrwyr llais 么l-raddedig o Gymru yn cystadlu bob blwyddyn i ennill y wobr a fydd yn cefnogi eu hastudiaethau yn y Coleg Cerdd a Drama. Yn ystod eihymweliad 芒'r Coleg dadorchuddiodd Shirley Bassey wisg y ddraig goch enwog, sef ei rhodd hael i'r Coleg. Fe ddewiswyd Catrin eleni hefyd fel un o'r myfyrwyr ar gyfer llwybr opera 么l-raddedigion o dan arweinyddiaeth Pennaeth Opera y Coleg, Donald Maxwell. Llongyfarchiadau i ti Catrin a phob dymuniad da i ti yn dy yrfa gerddorol.
 |