Braint oedd cael gwahoddiad i gyfarfod lansio llyfr 'Hanes Eisteddfod Maenclochog' gan Y Prifardd Eirwyn George yn Neuadd yr Eglwys ar Nos Wener, Ebrill 15, 2005. Yn anffodus roedd Eirwyn yn methu bod yn bresennol oherwydd salwch a chyflwynwyd y copi cyntaf o'i lyfr i'w briod, Maureen, gan y llywydd, Hefin Wyn. Mae'r llyfr yn croniclo hanes yr Eisteddfodau a gynhaliwyd ym Maenclochog yn ystod y trigain mlynedd gan roi enghreifftiau diddorol a doniol o'r gwahanol gystadlaethau, yn enwedig y rhai llenyddol. Ceir hanes eisteddfodau bach y capeli lleol cyn bod llawer o bobl yn berchen car. Fel arfer cynhelid eisteddfodau, ar y cyd, ar noson y Gymanfa Bwnc. Mae digon o luniau yn y llyfr, y rhan fwyaf o enillwyr cystadlaethau a'r Gadair ! Mae'r plant yn amlwg gyda'u tariannau a'u cwpanau a cheir erthyglau gan nifer o fuddugwyr Eisteddfod Tafarn Sinc hefyd ynghyd 芒 detholiadau o gynhyrchion buddugol eisteddfodau'r cylch. Mae'r llun ar y clawr yn drawiadol - tri o w欧r amlwg yr Eisteddfod sef Eifion Evans, Blaensawd a Wyn Owens yn cael ei gadeirio gan y Prifardd ei hun, Eirwyn George ac ar y cefn, y cwpled "Lluniwch gerdd a seiniwch g芒n Er budd yr henfro gyfan." Mae'n lyfr i'w drysori. N.E.
 |