成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Llien Gwyn
Bill Beales, prifathro Ysgol Cwmcarn 'Un o'r dynion dewraf' - barn yn dilyn sylwadau prifathro
Mehefin 2002
Yr erthygl olygyddol.

Ymateb golygydd Y Cardi Bach i sylwadau Bill Beales, prifathro Ysgol Cwmcarn, a wnaeth sylwadau dadleuol yng ngwasanaeth boreol yr ysgol.

"Fools rush in where angels fear to tread" yw'r hen ddywediad. Gellir arall-eirio hwn i "The brave rush in where angels fear to tread." Gobeithio nad ydw i'n ffwl ond dydw i ddim yn berson dewr chwaith!

Un o'r dynion dewraf, yn fy marn i, yw Bill Beales, Prifathro Ysgol Uwchradd Cwmcarn. Yn ystod y Gwasanaeth Boreol, soniodd am safonau moesol y ffydd Gristnogol wrth ei ddisgyblion gan ddweud ein bod fel pobl yn gwawdio rheolau Duw sydd wedi eu creu er budd a chyfiawnder i bawb.

Dweud y gwir heb flewyn ar ei dafod
O'r diwedd mae rhywun wedi sefyll lan a dweud y gwir heb flewyn ar ei dafod ac, wrth gwrs, mae wedi tynnu nyth cacwn i'w ben.

Yn y lle cyntaf dim ond dilyn cyfarwyddiadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol yr oedd fel Prifathro cydwybodol.

Dyma ddau o'r pwyntiau:* Helpu disgyblion i sylweddoli fod crefydd yn un o anghenion dyfnaf dynol-ryw, a bod yn ymwybodol fod yna elfen ysbrydol ymhob person unigol.

* Helpu meithrin gwerthoedd, safonau a moesoldeb.

Ie, safonau moesol; dyna wnaeth Bill Beales.

Yn ail, onid dyna mae arweinyddion crefyddol wedi ei wneud ers canrifoedd - dysgu gwerthoedd, safonau a moesoldeb a dangos y gwahaniaeth rhwng da a drwg i'w pobol?

Dirywiad cymdeithas
Wrth ddarllen y papurau ac edrych ar y teledu, beth glywn ni - llofruddio, treisio, dwyn, ymosodiadau erchyll ar yr henoed; yfed, cyffuriau (17 o bobl ifanc wedi marw yn y Cymoedd o effeithiau cyffuriau); pedoffiliaid yn treisio plant; yr anfoesoldeb rhywiol a welwn ar y sgr卯n; plant yn ymosod ar athrawon a'r twyllo sy'n digwydd, hyd yn oed yng nghoridorau grym y Llywodraeth a'r Cynulliad.

Onid ydych chi'n meddwl ei bod hi'n bryd i rywun sefyll lan, yn enw Duw ac yn enw popeth sy'n l芒n a dyrchafol?

Roedd yr Iesu'n dangos i bobol bod eu ffordd o fyw yn anghywir ond gwn芒i hynny mewn ysbryd o gariad a chonsrn, fel yn hanes Mair Magdalen a Sacheus.

Ceisio rhoi arweiniad
Efallai fod Bill Beales wedi cael ei gondemnio am iddo enwi rhai carfanau penodol yn ein cymdeithas. Ceisio rhoi arweiniad yr oedd, i bobol ifanc nad oes ganddyn nhw ganllawiau moesol i'w cynorthwyo ar daith bywyd.

Ar hyd y canrifoedd mae 'na bobol ddewr wedi sefyll dros y gwir. Ar y pryd, cawsant eu gwawdio, eu hamharchu a hyd yn oed eu lladd, ond roedd y byd yn well lle oherwydd eu safiad.
Yn fwy na thebyg fe gaiff Bill Beales y sac ond bydd ei gynghorion yn atseinio trwy feddwl ac eneidiau'r rhai sydd wedi clywed ei eiriau a'i gynghorion doeth.

Beth yw eich barn chi?

Ebostiwch i ddweud gan roi Lleisiau Lleol yn bennawd i'ch llythyr.



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy