成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Llien Gwyn
John Adams-Lewis a'i awyren "Dwy aden colomen pe cawn"
Rhagfyr 2003
Mae John Adams-Lewis wedi adeiladu awyren, ac mae'n gobeithio ei hedfan i Ffrainc eleni ...
Roedd diddordeb gan John mewn hedfan/awyrennau ers yn blentyn; bu'n meddwl ymuno 芒'r Llu Awyr ond mynd yn athro a wnaeth (dysgu gwaith coed/metel ac arlunio technegol.)

Un mlynedd ar ddeg yn 么l cafodd anrheg Nadolig gan y teulu, sef tocyn i hedfan am hanner awr mewn awyren fach, o Hwlffordd ( Maes Awyr Llwynhelyg) a dyma pryd y cafodd yr ysfa a'r penderfyniad i ddysgu hedfan. Cafodd gwrs o ryw 45 awr yn Hwlffordd. Yr hyfforddwr oedd Capt. Gwyndaf Williams o Lechryd a fu'n ddisgybl iddo!

Roedd y cwrs yn cynnwys (a bod yn llwyddiannus) mewn arholiadau yn ymwneud 芒 phob math o bynciau technolegol ym myd hedfan awyrennau. Cafodd drwydded hedfan (P.P.L. - Private Pilot's Licence) yng Nghwanwyn 1993. Bu'n hedfan yn rheolaidd wedyn, mor bell 芒 Chaerdydd, Abertawe, Trallwng, Shobdon (ger Leominster).

Yn 1999 penderfynodd John adeiladu awyren ei hunan gan ystyried rhyw dair awyren - Europa (UK); Zodiac (Canada) a Jabiru (Awstralia) . Aeth allan i Awstraliai ymweld 芒i fab, Hedd oedd yn gweithio yno ar y pryd. Ymwelodd 芒r ffatri yn Bundaberry a phenderfynu archebu cit JABIRU, dwy sedd. Mae Jabiru yn enw ar aderyn mawr yng ngogledd Awstralia ac ar bentref yn yr ardal hefyd.

Cyrhaeddodd y cit Aberteifi ar lori, mewn tri bocs mawr. Dechreuodd adeiladu bedair blynedd yn 么l ond araf iawn oedd y gwaith yn ystod y ddwy flynedd gyntaf gan ei fod yn Ddirprwy faer ac wedyn yn faer y Dref (dim amser i ddim!); hefyd gwath fel Cynghorydd Sir a Chyngor y Dref. Felly dim ond dwy flynedd i adeiladu o ddifrif.

Roedd allan bron bob bore yn y garej am tua 5.30 a chael llonydd i weithio am dair neu bedair awr. Roedd pob cam o'r adeiladu yn cael ei arolygu gan arolygydd o Hwlffordd. Cwblhaodd yr adeiladu yn ystod yr haf eleni a symudwyd yr awyren mewn lori i Faes Awyr Hwlffordd lle cafodd 5 - 8 awr o brofion cyn cael trwydded lawn oddi wrth y C.C.A (Civil Aviation Authority) a chael yr hawl i hedfan i rywle yn y byd; mae'n rhaid cael caniatad cyn disgyn mewn rhai gwledydd.

Ei uchelgais, blwyddyn nesaf gobeithio, yw hedfan i dref ynghanol Ffrainc o'r enw Brioude - tref sydd wedi gefeillio ag Aberteifi; mae rhodfa glanio porfa yno. Mae awyren Jabiru yn eistedd dau berson; mae'r injan 80 H.P. yn debyg i injan V.W. Beetle. Y cyflymdra yw tua 100 milltir yr awr, yn defnyddio tanwydd diblwm (rhyw 2 a hanner galwyn yr awr). Mae corff yr awyren wedi ei wneud o fibreglass a gall hedfan i fyny at 12,000 troedfedd o uchder !

Ar hyn o bryd, mae'n cadw'r awyren ym Maes Awyr Hwlffordd. Mae John wedi mwynhau'r profiad o'i hadeiladu ac os byw ac iach, mae'n gobeithio adeiladu un arall, efallai un yn eistedd 4 person, o aliwminiwm. Cofrestriad yr awyren yw G-T JAL.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy