Ffactorau sy'n effeithio ar dwf a natur twristiaeth
Mae twristiaeth yn ddiwydiant gwasanaethol. Mae'n creu incwm i rai gwledydd drwy ddarparu ystod o swyddi. Pan fydd pobl yn ymweld â lleoedd yn eu gwledydd eu hunain, mae hyn yn cael ei ddisgrifio fel twristiaeth ddomestig. Mae twristiaeth ryngwladol yn cyfeirio at bobl sy’n ymweld â gwledydd eraill.
Mae cyrchfannau twristiaid yn datblygu gan eu bod yn ddeniadol i bobl:
- Dinasoedd sy’n cynnwys siopau, bwytai, bariau, theatrau, amgueddfeydd, adeiladau enwog a bywyd nos. Rhai o’r cyrchfannau twristiaeth mwyaf poblogaidd yw Llundain, Rhufain a Las Vegas.
- Arfordiroedd -traethau ar gyfer torheulo, y môr ar gyfer chwaraeon dŵr ac amgylchedd deniadol ar gyfer gweithgareddau awyr agored megis cerdded. Rhai o’r cyrchfannau arfordirol mwyaf enwog yw Blackpool, Benidorm a thraeth Bondi yn Awstralia. .
- Mynyddoedd - golygfeydd godidog, dringo creigiau, cerdded, rafftio dŵr gwyn mewn afonydd mynyddig cyflym a sgïo. Rhai o’r cyrchfannau mwyaf enwog yw’r Pennines, yr Alpau a'r Himalayas.
- Hinsawdd - mae gan hinsawdd Môr y Canoldir hafau poeth a sych sy’n berffaith ar gyfer gwyliau traeth, tra bod eira yn yr Alpau yn darparu amodau delfrydol ar gyfer sgïo.
- Cyrchfannau gwyliau - er enghraifft, mae Center Parcs a Disneyland wedi denu miliynau o ymwelwyr yn y blynyddoedd diwethaf.
- Twristiaeth Clofan - lle mae’r holl weithgareddau wedi'u cynllunio o fewn yr un ardal, gan ddarparu adloniant a gwibdeithiau amrywiol i dwristiaid, heb iddyn nhw orfo teithio ymhellach.
Twf mewn twristiaeth
Mae llawer o ffactorau wedi cyfrannu at y twf yn y diwydiant twristiaeth:
- Amser Hamdden - Mae nifer y diwrnodau o wyliau â thâl wedi cynyddu
- Mwy o ymwybyddiaeth - mae rhaglenni teithio ar y teledu wedi codi disgwyliadau pobl
- Disgwyliad oes hirach - mae mwy o bobl hŷn yn teithio
- Rhyngrwyd - mae twf y rhyngrwyd wedi galluogi pobl i ymchwilio i gyrchfannau gwyliau a gwneud eu trefniadau teithio a llety eu hunain
Yn ogystal â newid yn nifer y gwyliau y mae pobl yn eu cymryd, Yn ogystal â newid yn nifer y gwyliau y mae pobl y neu cymryd, mae’r pellter y mae’r bobl yn barod i’w deithio i ymweld â llefydd, amser y flwyddyn y mae pobl yn cymryd eu gwyliau a natur gwyliau pobl hefyd wedi newid yn sylweddol:
- Mae lleodd pell fel Florida, Kenya, Gwlad Thai a hyd yn oed Antarctica wedi datblygu i fod yn yn gyrchfannau posibl i dwristiaid
- Mae cyrchfannau sgïo yn denu nifer gynyddol o dwristiaid ac mae mwy o bobl yn mynd ar wyliau byr, ee gwyliau mewn dinasoedd erbyn hyn
- Mae twf wedi bod yn nifer y cyrchfannau a sy‘n cael eu hadeiladu yn bwrpasol, megis Bluestone, sydd â chyfleusterau helaeth ac sydd ddim yn dibynnu ar y tywyddr
- Mae twristiaeth busnes hefyd wedi cynyddu mewn poblogrwydd, gyda chyfarfodydd busnes yn cael eu cynnal yn rhyngwladol a chynadleddau ysgogol yn digwydd ar benwythnosau