Dosbarthiad ecosystemau byd-eang
Mae’r map yn dangos dosbarthiad yr ecosystemau neu’r ïdzEcosystem fawr. byd-eang.
Nodweddion biomau
- Twndra – i’w weld ger pegwn y gogledd a phegwn y de. Ychydig iawn o blanhigion ac anifeiliaid sy’n gallu goroesi yma.
- Taiga (coedwig gonwydd) – i’w weld yn Sgandinafia, Rwsia a Chanada. Mae coed bythwyrdd yn ffynnu yn yr hinsawdd dymherus glaear hon.
- Coedwig gollddail dymherus – i’w gweld ar draws Ewrop ac yn UDA. Mae’r coed hyn yn colli eu dail bob blwyddyn ac yn ffynnu mewn amodau mwyn a gwlyb. Enw’r amodau hyn yw hinsawdd dymherus arforol.
- Glaswelltir tymherus – i’w weld yn Hwngari, De Affrica, yr Ariannin ac UDA. Mae’n cynnwys glaswellt a choed sy’n ffynnu mewn hinsawdd dymherus gyfandirol â glawiad cymedrol ac amodau mwyn.
- Mangoed neu bren caled bythwyrdd (Mediteranaidd) – i’w gweld o amgylch Môr y Canoldir, o amgylch Perth a Melbourne yn Awstralia a Chaliffornia yn UDA.
- Diffeithdir – i’w weld ger Trofannau Cancr a Chapricorn. Mae’r amodau yma yn boeth iawn ac yn sych. Mae planhigion ac anifeiliaid wedi’u haddasu’n arbennig i oroesi yn yr amodau caled.
- Coedwig law drofannol – i’w gweld ger y Cyhydedd. Mae’r hinsawdd yn boeth ac yn llaith ac mae llawer o wahanol rywogaethau i’w gweld yma.
- Tir glas y safana – i’w weld yn bennaf yng nghanol Affrica, de India, gogledd Awstralia a chanol De America. Mae glaswellt hir ac ychydig o goed yma ac acw i’w gweld yn yr amodau poeth a sych hyn.
Mae ecosystemau yn newid yn raddol rhwng y Cyhydedd a’r pegynau.