Y goedwig law drofannol – ecosystem ar raddfa fawr
Mae gan goedwigoedd glaw trofannol nodweddion arbennig sy’n cynnal amrywiaeth eang o wahanol rhywogaethMath o organeb sy’n uned ddosbarthu sylfaenol. Dydy organebau o wahanol rywogaeth ddim yn gallu rhyngfridio’n llwyddiannus.. Mae hyn yn golygu bod ganddyn nhw bioamrywiaethYr amrywiaeth o anifeiliaid a phlanhigion mewn ardal arbennig. uchel. Mae rhannau biotigYr elfennau byw mewn ecosystem, fel planhigion ac anifeiliaid. neu fyw yr ecosystem a rhannau anfiotigYr elfennau mewn ecosystem sydd ddim yn rhai byw, fel yr hinsawdd, tymheredd, dŵr, a’r math o bridd. neu anfyw yr ecosystem yn dibynnu ar ei gilydd – mae newid mewn un yn arwain at newid yn y llall.
Hinsawdd
- Gwlyb iawn â thros 2,000 mm o lawiad y flwyddyn.
- Cynnes iawn â thymheredd dyddiol cyfartalog o 28°C. Nid yw’r tymheredd byth yn gostwng yn is nag 20°C ac yn anaml y mae’n uwch na 35°C.
- Mae’r atmosffer yn boeth ac yn tywydd llaithPan fo cryn dipyn o leithder yn yr aer. .
- Mae’r hinsawdd yn gyson drwy’r flwyddyn. Nid oes tymhorau.
Pridd
- Ychydig iawn o’r pridd sy’n bridd ffrwythlonPridd sy’n llawn maetholion..
- Mae haen denau o bridd ffrwythlon i’w gweld ar yr wyneb lle mae’r dail marw’n dadelfennu.
- Mae’n bridd coch oherwydd ei fod yn cynnwys llawer o haearn.
- Oherwydd glawiad trwm mae’r maetholion yn cael eu golchi o’r pridd yn gyflym.
Planhigion ac anifeiliaid
- Mae’r hinsawdd gynnes a gwlyb iawn yn darparu amodau perffaith i blanhigion dyfu.
- Mae’r holl amrywiaeth o rywogaethau o blanhigion yn cynnal llawer o wahanol anifeiliaid, adar a phryfed.
- Mae’r rhywogaethau wedi addasu i amodau’r goedwig law, ee mae gan goed a phlanhigion wreiddiau bas er mwyn amsugno maetholion o’r pridd ffrwythlon sy’n agos at yr wyneb.
Strwythur coedwig law drofannol
Mae coedwig law drofannol yn cynnwys yr haenau a ganlyn.
- Lefel y ddaear – yn cynnwys llai o lystyfiant oherwydd yr amodau tywyll a llaith, yr haen drwchus o ddail sy’n dadelfennu a gwreiddiau bwtres y coed.
- Haen o lwyni – trwchus a thywyll â phlanhigion bach.
- Is-ganopi – yn cynnwys coed iau a glasbrennau sy’n cystadlu am olau mewn amodau tywyll.
- Y prif ganopi – 'to' y goedwig. Mae’n cynnwys coed tal, a phlanhigion sy’n dringo, fel gwinwydd (vines) a lianaPlanhigyn sy’n dringo i fyny o wreiddiau’r coed mewn coedwigoedd glaw.. Mae 50 y cant o fywyd y goedwig law i’w weld yma.
- Haen ymwthiol – yn cynnwys y coed talaf sy’n ymwthio o’r canopi.
Prosesau mewn ecosystem coedwig law
Mae gan goedwigoedd glaw set gymhleth o brosesau, gan gynnwys y ffordd y mae egni’n cael ei drosglwyddo drwy’r ecosystem. Y brif ffynhonnell egni mewn ecosystem yw golau’r haul. Mae golau’r haul yn cael ei amsugno gan blanhigion, sy’n cael eu galw’n ‘gynhyrchwyr’. Mae’r egni hwn yn cael ei basio ymlaen i’r anifeiliaid wedyn drwy’r planhigion maen nhw’n eu bwyta. Mae’r anifeiliaid hyn yn cael eu galw’n ‘ysyddion cynradd’. Yn aml iawn mae’r ysyddion cynradd hyn yn cael eu bwyta gan anifeiliaid mwy sy’n cael eu galw’n ‘ysyddion eilaidd’, sydd wedyn yn cael eu bwyta gan ‘ysyddion trydyddol’, sef yr anifail mwyaf. Drwy gydol y broses hon mae egni’n dal i gael ei basio ymlaen. Mae hyn yn cael ei alw’n gadwyn fwyd.
Mae cadwyn fwyd gymhleth yn cael ei galw’n we fwyd – mae hyn yn golygu bod rhai anifeiliaid a phlanhigion yn cael eu bwyta gan fwy nag un organeb arall. Mae dŵr a maetholion hefyd yn cael eu pasio drwy’r ecosystem.
Cylchred ddŵr y goedwig law
Mae gwreiddiau planhigion yn amsugno dŵr o’r ddaear. Mae glaw’n cael ei atal cyn iddo gyrraedd y ddaear gan ganopi’r goedwig law. Wrth i’r goedwig law gynhesu, mae’r dŵr yn anweddu ac yn trosglwyddo yn ôl i’r atmosffer. Mae cymylau’n ffurfio i wneud glaw’r diwrnod nesaf. Glawiad darfudol yw hwn.