˿

Ecosystemau – CBACBeth yw ecosystem?

Mae llawer o wahanol fathau o ecosystemau yn y byd, pob un â’i rannau a’i nodweddion rhyngweithiol ei hun. Maen nhw’n amrywio o ecosystemau bach, fel pwll dŵr croyw, i ecosystemau byd-eang, fel diffeithdir.

Part of DaearyddiaethTywydd, hinsawdd ac ecosystemau

Beth yw ecosystem?

Amgylchedd naturiol yw ac mae’n cynnwys y (planhigion) a’r (anifeiliaid) sy’n byw ac yn rhyngweithio yn yr amgylchedd hwnnw. Fflora, ffawna a yw rhannau neu fyw yr ecosystem. Mae ecosystemau yn ddibynnol ar y rhannau neu anfyw a ganlyn:

  • – mae’r tymheredd a swm y glawiad yn bwysig iawn er mwyn pennu pa sy’n gallu goroesi yn yr ecosystem
  • pridd – mae’r math o bridd yn bwysig gan fod y pridd yn darparu maetholion a fydd yn cynnal gwahanol blanhigion
  • dŵr – bydd swm y dŵr sydd ar gael mewn ecosystem yn pennu pa blanhigion ac anifeiliaid y mae’n bosibl eu cynnal

Mae gan rannau biotig yr ecosystem, sy’n cynnwys bacteria, fflora a ffawna, berthynas gymhleth â’r rhannau anfiotig – bydd newid mewn un yn arwain at newid yn y llall.

Y gylchred faetholion.
Figure caption,
Mae bacteria yn dadelfennu deunydd mewn pridd i greu maetholion, sy’n cael eu hamsugno gan blanhigion. Gall planhigion gael eu bwyta gan anifeiliaid. Mae gwastraff o blanhigion marw ac anifeiliaid yn cael ei ychwanegu i’r pridd.