˿

Tywydd eithafol – CBACYdy’r tywydd yn mynd yn fwy peryglus?

Gall systemau gwasgedd isel (diwasgedd) a systemau gwasgedd uchel (gwrthseiclonau) achosi digwyddiadau tywydd eithafol mewn sawl rhan o'r byd, gan gynnwys y DU.

Part of DaearyddiaethTywydd, hinsawdd ac ecosystemau

Ydy’r tywydd yn mynd yn fwy peryglus?

Mae llawer o wyddonwyr yn credu bod tywydd y byd yn mynd yn fwy peryglus. Mae rhai enghreifftiau o dywydd eithafol yn y DU yn cynnwys:

  • glaw trwm
  • gwyntoedd cryf
  • eira trwm
  • niwl trwchus
  • tywydd poeth
  • sychder

Gall newid hinsawdd gynyddu pa mor aml y ceir digwyddiadau tywydd eithafol a pha mor ddwys ydyn nhw, sy’n gallu cael effeithiau cadarnhaol a negyddol ar fywydau pobl.

Mae ton fawr yn torri yn erbyn wal glan y môr ac ewyn gwyn yn tasgu’n uchel i’r awyr.
Image caption,
Tonnau’n taro yn erbyn wal y promenâd yn Aberystwyth

(Cynnwys Saesneg)