˿

Tywydd eithafol – CBACSystemau gwasgedd isel eithafol

Gall systemau gwasgedd isel (diwasgedd) a systemau gwasgedd uchel (gwrthseiclonau) achosi digwyddiadau tywydd eithafol mewn sawl rhan o'r byd, gan gynnwys y DU.

Part of DaearyddiaethTywydd, hinsawdd ac ecosystemau

Systemau gwasgedd isel eithafol

Dosbarthiad corwyntoedd a seiclonau ledled y byd

Stormydd trofannol ffyrnig sy’n digwydd yn ystod tymhorau gwahanol yw seiclonau, sef teiffwnau yn Asia a chorwyntoedd yn UDA. Maen nhw’n enghreifftiau o systemau gwasgedd isel eithafol. Ceir corwyntoedd gan amlaf ar ddechrau tymor yr haf yn America – rhwng diwedd mis Mehefin a mis Hydref.

Map o'r byd yn dangos nifer cymedrig seiclonau a’r amser (tymor) y disgwylir iddyn nhw ddigwydd.
Figure caption,
Map o'r byd yn dangos dosbarthiad seiclonau ledled y byd

Sut mae seiclon yn ffurfio?

Er mwyn i seiclon ffurfio a datblygu, rhaid i dymheredd y môr fod yn 27°C am nifer o wythnosau cyn hynny. Wedyn mae'r aer cynnes yn codi’n gyflym, gan greu gwasgedd isel. Mae hyn yn arwain at gyddwyso a datblygu cymylau tyrog mawr a chenllif o law. Wrth i aer llaith a chynnes symud i mewn i ddisodli'r aer sy’n codi, mae’n dechrau troelli am i fyny tuag at yr atmosffer. Gelwir y troelli hwn, sy’n digwydd o ganlyniad i gylchdro’r ddaear, yn effaith Coriolis.

(Cynnwys Saesneg)

Categorïau seiclonau

Caiff seiclonau eu rhannu i bump grŵp – un yw’r gwannaf a phump yw'r cryfaf. Mewn seiclon categori pump, gall cyflymder y gwyntoedd gyrraedd 300 cilometr yr awr ac mae'r difrod sy’n cael ei achosi yn eithafol. Gall eiddo, strwythurau cludiant, llystyfiant ac isadeiledd fel llinellau pŵer gael eu dinistrio’n llwyr.

Seiclon Pam

Ym mis Mawrth 2015, cafodd ynys Vanuatu yn y Cefnfor Tawel ei dinistrio gan Seiclon Pam. Roedd Pam yn seiclon categori pump a chyrhaeddodd cyflymder y gwynt 320 cilometr yr awr. Mae Vanuatu yn ynys bellennig sy’n eithriadol o agored i niwed. Mae incwm cenedlaethol y boblogaeth yn llai na $3,100 y flwyddyn ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn ffermwyr tlawd sydd methu fforddio adeiladu tai o safon dda. Dydy’r Llywodraeth ddim yn gallu fforddio amddiffynfeydd arfordirol meddal chwaith. O ganlyniad i newid hinsawdd ac oherwydd bod lefel y môr yn codi, mae'r ynysoedd yn eithriadol o agored i niwed.

Lleoliad a llwybr Seiclon Pam

Map yn dangos llwybr seiclon Pam tuag at ddwyrain Vanuatu.

Canlyniadau

Cymdeithasol

  • Cafodd 90 y cant o gartrefi eu dinistrio, gan adael llawer o bobl yn ddigartref.
  • Cafodd cyflenwadau dŵr eu halogi a chafodd ffynhonnau eu dinistrio.
  • Cafodd 11 o bobl eu lladd.
  • Cafodd ysgolion eu dinistrio.
Dau berson yn edrych drwy adfeilion tŷ.
Image caption,
Tŷ wedi ei ddinistrio yn Vanuatu

Economaidd

  • Cafodd caeau amaethyddol eu difrodi a chafodd hyd at 80 y cant o gnydau tyfu coffi’r ynys eu dinistrio.
  • Amcangyfrifwyd bod $2.5 biliwn o ddifrod wedi'i wneud i fusnesau ffermio.

Amgylcheddol

  • Cafodd maethynnau eu golchi o’r pridd gan y glaw trwm.
  • Cafodd llystyfiant ei foddi, a arweiniodd at golli cynefinoedd.

Ymatebion

Cafodd yr ynys help gan nifer o wledydd cyfagos, a wnaeth anfon cymorth milwrol, personél a chyflenwadau mewn argyfwng.

Eitemau cymorth mewn rhwydi mawr y tu mewn i awyren. Yn y blaen mae dyn yn teipio ar liniadur.
Image caption,
Cludo cymorth i Vanuatu