Newidiadau i ecosystemau
Mae ecosystemYr organebau byw mewn ardal benodol, ynghyd â’r pethau yn yr amgylchedd sydd ddim yn fyw. yn sensitif iawn i newid. Gall rhannau byw ac anfyw yr ecosystem gael eu haddasu gan ffactorau naturiol neu drwy reolaeth ddynol.
Mae newidiadau i’r ecosystem sy’n cael eu hachosi gan ffactorau naturiol yn cynnwys:
- sychder
- llifogydd
- â
- afiechyd
Mae newidiadau i’r ecosystem sy’n cael eu hachosi gan reolaeth ddynol yn cynnwys:
- cyflwyno mwy o bysgod (stocio pysgod)
- addasu draeniad y tir, a allai ddylanwadu ar swm y dŵr
- newid lefel pHLefel asidedd rhywbeth. Mae lefel pH isel yn arwydd o asidedd a lefel pH uchel yn arwydd o alcalinedd. y dŵr
- addasu lefelau maetholion y dŵr os yw gwrteithiau yn trwytholchiPan fydd maetholion yn cael eu golchi o’r pridd gan law trwm. i’r dŵr ac yn arwain at ewtroffigedd‘Gor-faethu’ sy’n digwydd o ganlyniad i wrtaith yn llygru ecosystemau dyfrol.
Gall unrhyw un o’r newidiadau hyn gael effaith negyddol ar yr ecosystem a gallent dorri cadwyn fwydCyfres (a ddangosir fel diagram fel arfer) o berthnasau bwydo rhwng organebau, sy’n dangos pa organebau sy’n bwyta beth a symudiad yr egni drwy’r lefelau troffig..