Dram芒u sy鈥檔 defnyddio sgript fel ysgogiad
Mae鈥檙 ddrama gerdd West Side Story gan Stephen Sondheim yn seiliedig ar ddrama enwog Shakespeare, Romeo and Juliet. Mae Sondheim yn gosod y digwyddiadau yn America yn ystod y 1950au, ble mae gangiau rhyfelgar Americanaidd a Puerto-Ricaidd yn cynrychioli鈥檙 elyniaeth rhwng y Montagues a鈥檙 Capulets yn y stori wreiddiol. Er bod Romeo a Juliet yn cael eu cyfnewid am Tony a Maria, nid yw stori鈥檙 cariadon nad oedd gobaith i鈥檞 serch yn newid. Fyddet ti鈥檔 gallu trawsgludo dy linell stor茂ol neu dy gymeriadau i le a chyfnod arall?
Cafodd drama Sharman Macdonald i bobl ifanc, After Juliet, hefyd ei hysbrydoli gan Romeo and Juliet. Mae鈥檔 ymchwilio i鈥檙 hyn sy鈥檔 digwydd o ganlyniad i hunanladdiad y ddau gymeriad ac, yn arbennig, effaith hynny ar y bobl yn eu harddegau yn eu teuluoedd. Efallai y gallai hwn fod yn fan cychwyn ar gyfer dy waith. Beth sy鈥檔 digwydd pan fydd y ddrama wedi gorffen?
Mae comedi Tom Stoppard, Rosencrantz and Guildenstern are Dead, yn canolbwyntio ar ddau gymeriad dibwys allan o Hamlet gan Shakespeare gan edrych ar y digwyddiadau o鈥檜 safbwynt nhw. A hwythau wedi eu hanfon i Loegr a鈥檜 lladd gan eu ffrind yr Arglwydd Hamlet, mae鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 digwyddiadau鈥檔 digwydd 鈥榦ddi ar y llwyfan鈥 ble maen nhw鈥檔 aros am eu dychweliad, ac wedi eu drysu gan y digwyddiadau sy鈥檔 datblygu. Mae Stoppard yn defnyddio darnau o destun Shakespeare ynghyd 芒鈥檌 waith ei hun i greu gwaith hynod o wreiddiol. Fyddet ti鈥檔 gallu canolbwyntio ar gymeriad dibwys yn dy sgript ac ymchwilio i ddigwyddiadau drwy lygaid y cymeriad hwnnw?
Ymchwilio i them芒u
Syniad sy鈥檔 ailymddangos ydy thema, ac mae鈥檔 bresennol drwy鈥檙 holl waith. Pa them芒u sy鈥檔 bresennol yn dy sgript di 鈥 cariad, colled, gobaith, anghyfiawnder? Beth ydy byrdwnPrif neges llyfr, drama, ffilm, thema neu ddadl. y thema ar lefel ehangach na鈥檙 stori ei hun? Efallai fod yna syniad yma y gallet ti ei gymryd o鈥檙 sgript i ymchwilio鈥檔 fanylach iddo.
Mae鈥檙 clip Saesneg hwn yn dangos gr诺p o fyfyrwyr yn perfformio mewn fersiwn amgen o Act Un Golygfa Pedwar Romeo and Juliet gan Shakespeare. Nid Verona ydy鈥檙 lleoliad y tro hwn, ond dosbarth aerobig. Mae stori Romeo a Juliet yn ysgogi darn newydd o waith.