Sut i ddefnyddio sgript fel ysgogiad
Darllena鈥檙 darn hwn sy鈥檔 gyfieithiad o olygfa o鈥檙 ddrama gerdd Blood Brothers. Pa bethau wyt ti鈥檔 sylwi arnyn nhw a allai arwain at syniadau pellach i鈥檞 datblygu?
Blood Brothers
by Willy Russell
Mae Eddie a Mickey yn efeilliaid. Pan gafodd ei eni, cafodd Eddie ei roi gan ei fam i wraig gyfoethog gan nad oedd hi鈥檔 gallu fforddio magu dau blentyn arall. Newidiodd ei meddwl yn gyflym, ac roedd hi eisiau Eddie yn 么l, ond roedd hi wedi tyngu llw ar y Beibl ei bod am roi鈥檙 gorau iddo a chadw eu cyfrinach am byth.
Eddie
Pam fod, pam fod cael job mor bwysig? Pe bawn i鈥檔 methu cael job, mi fyddwn i鈥檔 deud 鈥榳fft iddi鈥, byw fel bohemian ar y d么l a chodi dau fys ar y byd. So, ti ddim yn gweithio. Pam fod hynny mor bwysig?Mickey
[yn edrych arno] Ti鈥檔 deall dim nag wyt ti? Alla i ddim codi dau fys ar y byd, Eddie. Dyw pobol fel fi ddim yn gallu.Eddie
Dere 鈥榤laen, mae gen i arian, lot o arian. Dwi鈥檔 么l, anghofia am waith, awn ni i n么l Linda a joio. Edrych, arian, lot o arian, cymra beth. [Ceisio rhoi arian yn ei law]Mickey
Na! Dwi ddim ishe dy arian di. Stwffia fe! [Mickey yn gwylio wrth i Eddie droi a chodi鈥檙 arian papur. Eddie yn sefyll ac yn edrych arno] Eddie, gwna ffafr a fi. P*** off.Eddie
Ro鈥檔 i鈥檔 meddwl y bydden ni wastad gyda鈥檔 gilydd. Ro鈥檔 i鈥檔 meddwl ein bod ni鈥檔 鈥 frodyr gwaed.Mickey
Chwarae plant oedd hynny, Eddie, ti鈥檔 deall? [Saib. Mickey yn edrych arno. Chwerthiniad eironig]. Ond plentyn wyt ti o hyd, am wn i.Defnyddio thema fel ysgogiad
Dyma them芒u posib allet ti eu defnyddio o鈥檙 detholiad o Blood Brothers fel ysgogiad ar gyfer dy waith:
- dosbarth 鈥 cyfoethog yn erbyn tlawd
- pwysau oddi wrth gyfoedion
- bwlio
- gwrywdod yr 21ain ganrif
- mae鈥檙 hyn sy鈥檔 cyferbynnu鈥檔 atynnu
- natur yn erbyn magwraeth
- anghyfartaledd cymdeithasol/diffyg symudeddY gallu i symud rhwng lefelau mewn cymdeithas.
- ffawd
I鈥檛h roi ar ben ffordd, gall sesiwn trafod syniadau neu fap meddwl syml sy鈥檔 ymateb i Blood Brothers edrych fel hyn ar y dechrau: