成人快手

Ymateb i ysgogiadBeth ydy ysgogiad?

Mae sawl ffordd o ddarganfod syniadau ar gyfer creu drama. Galli di ddefnyddio sgriptiau, them芒u a chymeriadau o ddram芒u neu galli di ddefnyddio ysgogiad megis cerddoriaeth a barddoniaeth.

Part of DramaGwaith sgript

Beth ydy ysgogiad?

Does dim rhaid i ysgogiad fod yn sgript. Mae yna sawl man cychwyn posib ar gyfer creu gwaith gwreiddiol megis ffotograffau, propiau, cerddoriaeth neu unrhyw beth sy鈥檔 tanio dy ddychymyg.

Mae sgript yn fan cychwyn ardderchog ar gyfer datblygu syniadau newydd. Mae鈥檙 llinyn stor茂ol (plot) wedi ei greu yn barod, cymeriadau wedi eu sefydlu, a pherthnasoedd a them芒u yn rhedeg drwy鈥檙 ddrama. Gall y rhain i gyd gael eu harchwilio mewn dyfnder neu o wahanol onglau i greu drama wreiddiol a chyffrous.

Rhaid dechrau o鈥檙 dechrau a darllen y ddrama ac yna ysgrifennu holl ymatebion y gr诺p iddi ar bapur. Cofia nad oes ffordd gywir nac anghywir, felly rhaid trafod a chofnodi cymaint ag sy鈥檔 bosib. Does dim angen ysgrifennu mewn paragraffau nac yn or-fanwl. Pwrpas y nodiadau hyn ydy dy helpu di i feddwl yn greadigol.

Gallet ti ddefnyddio map meddwl sef diagram sy鈥檔 helpu i afael mewn syniadau. Mae map meddwl yn cael ei greu鈥檔 aml o amgylch gair unigol neu destun a gaiff ei osod yn y canol gan ychwanegu syniadau, geiriau a chysyniadau perthnasol ato. Gall categor茂au gynrychioli geiriau, syniadau, tasgau neu eitemau eraill sy鈥檔 berthnasol i air allweddol neu syniad canolog.

Esiampl o fap-meddwl, gyda'r labeli 'Thema ganolog neu syniad' a 'Thema berthynol'

Related links