Portreadu cymeriad
Pan fyddi di鈥檔 actio rhan rhywun arall rwyt ti鈥檔 ymgymryd 芒 r么l. Mae i鈥檙 r么l honno nodweddion personoliaeth, rhinweddau a phriodoleddau penodol sy鈥檔 ffurfio鈥檙 cymeriad. Heb cymeriaduDefnyddio sgiliau llais a chorfforol i bortreadu r么l. llwyddiannus fyddi di ddim yn gallu ymgorffori鈥檙 r么l a dod 芒鈥檙 unigolyn hwnnw鈥檔 fyw mewn ffordd tri dimensiwn.
Cyfathrebu di-eiriau
Dyma'r hyn rwyt ti鈥檔 ei ddweud heb i ti lefaru na defnyddio geiriau. Gallwn ni ddysgu llawer am bobl o'r ffordd maen nhw'n symud, yn sefyll, yn cerdded, yn amneidio ac yn defnyddio eu hwynebau a鈥檜 dwylo, yn ogystal 芒鈥檜 nodweddion corfforol. Darllena Defnyddio dy lais i ddysgu mwy.
Cynhaliodd y seicolegydd, yr Athro Albert Mehrabian astudiaeth enwog yn y 1960au i鈥檙 ffordd rydyn ni鈥檔 cyfathrebu. Ei gasgliad oedd bod cyfanswm rhyfeddol o 55% o gyfathrebu yn digwydd drwy iaith y corff, 38% drwy d么n ein llais, a dim ond 7% o鈥檔 cyfathrebu sy鈥檔 eiriau sy鈥檔 cael eu llefaru. Darllena Disgrifio iaith y corff i ddysgu mwy.
Hyd yn oed os ydy cymeriadau鈥檙 dramodydd wedi eu disgrifio鈥檔 fanwl a鈥檜 llunio鈥檔 dda, mae llawer mwy i bortreadu cymeriad na dim ond y geiriau maen nhw鈥檔 eu llefaru. Wrth gwrs, mae鈥檙 un peth yn wir wrth greu a datblygu dy gymeriadau dy hun.
Mae鈥檙 clip Saesneg hwn o raglen deledu Arena y 成人快手 yn dangos sawl actor adnabyddus o 1948 i鈥檙 presennol yn dehongli cymeriad Hamlet yn nrama Shakespeare. Sut mae eu cymeriadu nhw鈥檔 wahanol? Edrycha ar sut mae鈥檙 actorion yn defnyddio llais, symudiad, iaith y corff a mynegiant wyneb i ddehongli鈥檙 cymeriad.